Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod cyffuriau ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ein byd yn wynebu heriau iechyd digynsail, gyda phoblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio, a bygythiadau i iechyd y cyhoedd gan afiechydon a heintiau sy'n dod i'r amlwg.

Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da yn rhyngwladol am drosi ei hymchwil arloesol gyfoethog yn therapiwteg newydd i drawsnewid triniaeth cleifion a helpu i fynd i'r afael â'r heriau.

Pharmacy pipettes

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Mae gan yr Ysgol ymchwilwyr o'r radd flaenaf sy'n gweithio ar ddarganfod, datblygu a defnyddio cyffuriau a meddyginiaethau i fynd i'r afael â rhai o'r cyflyrau meddygol mwyaf gwanychol sy'n peryglu bywyd, fel Clefyd Alzheimer, Clefyd Parkinson, canser, diabetes a chlefydau heintus.

Chronic inflammation

Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd

Mae'r Sefydliad yn darparu arbenigedd mewn heintiau, imiwnedd a data mawr ar draws y Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a'r Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae ymchwil y Sefydliad yn llywio datblygiad diagnosteg, therapïau a brechlynnau newydd yn erbyn rhai o fygythiadau iechyd cyhoeddus mwyaf ein hoes.

Researchers working in a busy chemistry lab

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Nod y Sefydliad yw trosi darganfyddiadau sylfaenol mewn prosesau afiechydon a nodi targedau moleciwlaidd yn gyffuriau newydd. Mae'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran arloesi meddygol, gan ddod â gwyddoniaeth flaengar i gleifion trwy droi ymchwil biofeddygol flaenllaw yn gyffuriau newydd.

European Cancer Stem Cell Research Institute masthead

Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd

Nod y Sefydliad yw gwella dealltwriaeth o rôl bôn-gelloedd canser mewn ystod o ganserau. Mae uwch-academyddion, cymrodyr ymchwil a myfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio ochr yn ochr â thimau blaenllaw ym maes gwyddoniaeth biofeddygol a datblygu cyffuriau i greu canolbwynt rhagoriaeth ymchwil yn y DU i dargedu canser.