Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Chris McGuigan

Yr Athro Chris McGuigan
Yr Athro Chris McGuigan

Roedd yr Athro Chris McGuigan (1958-2016) yn wyddonydd a ymroddodd ei fywyd i ddarganfod cyffuriau ac a oedd yn benderfynol o feithrin a thyfu gwyddor bywyd ac ymchwil yng Nghymru.

Roedd yn ddylunydd a datblygwr cyffuriau arbenigol a dawnus iawn a oedd wrth wraidd ymchwil wyddonol hanfodol am fwy na 30 mlynedd.

Roedd yr Athro McGuigan yn un o brif wyddonwyr y DU ym maes darganfyddiadau cyffuriau gwrth-ganser. Roedd ei arbenigedd ymchwil hefyd yn ymestyn i ddarganfod a datblygu cyffuriau newydd ar gyfer HIV, hepatitis B ac C, a chlefyd y system nerfol ganolog. Roedd yn gyfrifol am

  • ddyfeisio pedwar cyffur arbrofol newydd i fynd i dreialon clinigol dynol
  • cyhoeddi dros 200 papur gwyddonol
  • cyflwyno dros 100 cais patent.

Er bod Chris wedi gadael y byd hwn, bydd ei waddol a'i gyfraniad i wyddoniaeth yn byw am byth.
Dr Michaela Serpi, Cydymaith Ymchwil

Roedd yr Athro McGuigan yn gweithio'n ddygn i ddefnyddio ei syniadau gwyddonol er lles cymdeithasol, gan weithio'n ddiflino ac ar y cyd â gwyddonwyr ar hyd a lled y byd i fynd i'r afael ag angen meddygol heb ei ddiwallu.

Lansiodd yr Athro McGuigan HUB Gwyddorau Bywyd Cymru ac ef oedd ei Gadeirydd cyntaf. Roedd yn Gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru, menter gwerth miliynau o bunnoedd i gefnogi ac ariannu prosiect darganfod cyffuriau ledled Cymru.

Cyflawniadau allweddol

  • Dyfeisiwr ProTides phosphoramidate: motiff dosbarthu a darganfod cyffuriau newydd, ac ysbrydolodd ddarganfod a thrwyddedu Remdesivir yn UDA yn y frwydr yn erbyn coronafeirws (COVID-19).
  • Dyfeisiwr y cyffur ProTide gwrth-ganser cyntaf sy'n cael ei brofi mewn bodau dynol.
  • Dyfeisiwr dau ymgeisydd cyffuriau gwrthfeirysol newydd i gyrraedd treial clinigol, FV100 ar gyfer yr eryr ac INX189 ar gyfer Hepatitis C (HVC).
  • Cyd-ddyfeisiwr Cf1743 a'i prodrug FV100 yn erbyn Varicella Zoster Virus (VZV)/eryr.
  • Cyd-ddyfeisiwr ProTide INX-08189 gwrth-HCV newydd, y cyfansoddyn mwyaf grymus yn y dosbarth ar gyfer HCV a'r gyrrwr y tu ôl i brynu Inhibitex am $2.5 biliwn yn 2012.
  • Cyd-ddyfeisiwr acyclovir ProTides fel asiantau gwrth-HIV newydd.
  • Dyfeisiwr Phosphorodiamidates: motiff pro-gyffur ffosffad newydd gyda patentau wedi'u ffeilio.
  • Cyd-ddyfeisiwr ffosffadau glwcosamin newydd gyda defnydd posib mewn osteoarthritis.
  • Cyd-ddyfeisiwr teulu newydd o asiant firws gwrth-frech goch.
  • Cyd-ddyfeisiwr teulu newydd o asiantau gwrth-MS.
  • Hyfforddodd a mentora dros 100 o ymchwilwyr o dros 22 o wledydd ledled y byd.

Roedd ei afael ar gymhlethdodau’r broses dyfeisio cyffuriau, o ddylunio trwy astudiaethau cyn-glinigol ac yna dynol, ac o’r prosesau eiddo deallusol sy’n ofynnol i gyfieithu’r dyfeisiadau, yn feistrolgar. Nid oedd Chris yn wyddonydd mewn tŵr ifori.
Yr Athro Gary Baxter, Cyn Rag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Mae colled drist yr Athro Chris McGuigan i'w deimlo ledled y Brifysgol a'r gymuned wyddonol ehangach.

Mae'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn falch o gynnal Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau a Symposiwm Chris McGuigan er cof amdano a dathlu ei etifeddiaeth a'i gyflawniadau arloesol eraill ym maes darganfod cyffuriau.