Ewch i’r prif gynnwys

Anghenion mynediad

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig gan fyfyrwyr sydd yn meddu ar y cymwysterau addas mewn cemeg ac mewn disgyblaethau perthynol. 

Bydd cais pob ymgeisydd yn bersonol ac yn berthnasol i'r wlad maent yn astudio ynddi. Rydym yn derbyn English for University Study a'r Rhaglenni rhag-sesiynol fel cymwysterau mynediad. Nid oes angen prawf IELTS ar wahân cyn eich mynediad. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am addasrwydd eich cymwysterau, cysylltwch â:

Dr Tom Tatchell

Dr Tom Tatchell

Rheolwr Addysg a Myfyrwyr

Email
tatchellt@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0759

Rhaglen Sylfaen Rhyngwladol

Yn ogystal â mynediad uniongyrchol i'n rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig, rydym yn cynnig llwybr arall i chi astudio cemeg trwy'r Rhaglen Sylfaen Rhyngwladol.

Dyma raglen un blwyddyn sydd wedi ei dylunio i roi'r sgiliau i chi fedru gael mynediad i'n rhaglenni gradd israddedig.

Anghenion iaith - Saesneg

Os nad Saesneg yw eich hiaith gyntaf, bydd angen tystiolaeth arnom o'ch hyfedredd yn Saesneg. Mae manylion llawn y cymwysterau sydd angen arnoch ar gael ar ein tudalennau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Rydym hefyd yn darparu nifer o gyrsiau Saesneg i'ch galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau yn y maes hwn neu i gyrraedd lefel ar gyfer mynediad i'r cyrsiau. Mae'r cyrsiau yma'n rhedeg naill ai cyn neu yn ystod eich hastudiaethau academaidd. Gallwch ddod o hyd i mwy o wybodaeth ar y tudalennau cwrs perthnasol.