Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Patients being treated

Ein nod yw cynyddu capasiti ymchwil yng Nghymru, ac adeiladu partneriaethau gydag ymchwilwyr ledled y byd i ddylunio, cynnal a chyhoeddi treialon ac astudiaethau sydd wedi'u dylunio'n dda.

Portffolio ymchwil

Mae ein portffolio ymchwil presennol yn helaeth ac yn ymdrin â newid ymddygiad, canser solet a chanserau gwaed, plant a phobl ifanc, a heintiau. Rydym yn parhau i ddatblygu astudiaethau sydd wedi'u cynllunio'n dda y tu allan i'n hardaloedd craidd, gan gynnwys treialon ar gyfer dyfeisiau meddygol, ac yn sefydlu portffolio o ymchwil ar y person hŷn.

Rydym yn barod i ystyried unrhyw astudiaeth neu syniad am dreial sydd wedi’u cynllunio'n dda, hyd yn oed rhai sydd y tu hwnt i’n meysydd ymchwil presennol. Rydym yn annog ymchwilwyr i gysylltu â ni ynghylch partneriaethau newydd a syniadau prosiect posibl gyda'n gilydd.

Canolfan arbenigedd ymchwil

  • Treialon cyffuriau o'r cyfnod cynnar i’r cyfnod diweddar
  • Treialon ac ymyriadau cymhleth
  • Deall mecanweithiau clefydau posibl a'r ffordd y mae triniaethau’n gweithio
  • Astudiaethau o garfannau
  • Cynnal hap-dreialon wedi’u rheoli mewn lleoliadau cymunedol a lleoliadau nad ydynt yn rhai iechyd
  • Troi ymchwil yn bolisi ac ymarfer
CTR 4 Division Logos Aspect Ratio 16 9

Divisions

Y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd yw un o'r Unedau Treialon Clinigol Cofrestredig mwyaf yn y DU. Rydym yn cael ein trefnu'n bedair adran, pob un ag arbenigeddau.