Yr Athro Alan Clarke
Ionawr 2016 – Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth yr Athro Alan Clarke.
"Rydym eisiau cwestiynu rhagdybiaeth bôn-gelloedd Canser gwreiddiol… mae gennym farn ychydig llai llym bod y celloedd o fewn y tiwmor yn gallu bod yn eithaf plastig."
Pwy ydych chi?
Fy enw i yw'r Athro Alan Clarke ac rwy'n Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd. Rwyf hefyd yn Bennaeth Ymchwil yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ac yn Bennaeth Canolfan Canser CRUK.
Beth, yn eich barn chi yw'r celloedd yma a pham mae'n nhw mor ddiddorol?
Rydym o'r farn bod y bôn-gell canser yn debyg iawn i'r bôn-gell cyffredin. Felly rydym yn edrych ar y ffordd mae'r bôn-gelloedd cyffredin yn newid i fod yn gelloedd canser. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cael mewnwelediad newydd i'r ffordd rydym ni'n meddwl am therapïau a dangosyddion prognostig. Yn arbennig wrth ystyried goroesi ac ymateb y claf i therapïau. Ein bwriad yw cwestiynu'r ddamcaniaeth wreiddiol am bôn-gelloedd canser.
Cafodd y ddamcaniaeth wreiddiol ei harwain gan y dystiolaeth os ydyn ni'n dadadeiladu'r tyfiant neu'r tiwmor i'r mathau gwahanol o gelloedd sy'n perthyn iddo, bydd yna gelloedd yno sy'n ail greu'r tyfiant drachefn. Dyma'r bôn-gelloedd canser. Ni fydd hyn yn digwydd gyda'r celloedd eraill. Mae'r ddamcaniaeth wreiddiol yn ddogmatig iawn am y ddau gwahanol fath o gell. Rydyn ni o'r farn y gallai priodweddau'r celloedd yma fod yn fwy hyblyg. Felly un diwrnod mae nhw'n ymdebygu i gell canser a'r diwrnod nesa dyn nhw ddim.
Y pryder yw bydd targedu cyffuriau yn nhermau'r ddamcaniaeth wreiddiol yn lladd y bôn-gelloedd canser byw ar unrhyw adeg, ond gallai'r tyfiant synhwyro hyn a gadael i gelloedd eraill ddatblygu'n eu lle. Nid yw hyn yn broblem ond mae'n golygu bod yn rhaid ystyried hyn pan yn datblygu therapi a sichrau ei fod yn cydfynd gyda therapi fwy confensiynol ar yr un pryd.
Ydych chi'n gallu disgrifio'ch gweithgareddau ymchwil yn y sefydliad i ni?
Mae gennym ni nifer o weithgareddau ymchwil amrywiol sydd yn ffocysu ar ddeall y geneteg sy'n achosi datblygiad a thwf canser. Rydyn ni'n modelu newidiadau geneteg sy'n rhagdueddu canser a'i ddatblygiad ac yn defnyddio nifer o systemau trwy ddiwylliant y celloedd neu o fewn llygoden. Ein ffocws yw canser y perfedd.
Sut mae'ch ymchwil chi'n perthyn i'r testun ehangach?
Rydyn ni eisiau profi fod y newidiadau geneteg arbennig rydyn ni wedi bod yn eu hastudio yn dargedau da ar gyfer dangosyddion prognostig a therapïau canser newydd. Felly, rydym yn gofyn nifer o gwestiynau gwahanol am sut mae canser yn datblygu ac yn gwaethygu. Ac mae hyn i wneud gyda'r syniad o'r bôn-gelloedd canser; sef y syniad o fewn y canser nad yw pob cell yn gyfartal a bod rhai yn fwy ymosodol.
Beth ydych chi'n ei wneud heddiw?
Heddiw, rwy'n ysgrifennu cwestiynau arholiadau ar Beirianneg Geneteg ar gyfer is-raddedigion. Nes ymlaen, rydym yn cael cyfarfod tîm rheoli y sefydliad bôn-gelloedd canser, i drafod materion yn ymwneud â phersonel. Rwy'n croesawu rhywun o Brifysgol Glasgow wedyn sy'n cyflwyno araith. Wedyn dwi'n mynd i baratoi ar gyfer cyfarfod bwrdd Cyngor Ymchwil Meddygol lle mae'n rhaid i mi ddarllen tua 600 tudalen o waith a'i gyflwyno fe i'r bwrdd. Heblaw am hynny, mae'n ddiwrnod tawel!
Beth sy'n fuddiol o ran gweithio fel ymchwilydd yn y sefydliad hwn?
Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth mawr yw bod pobl yn fwy parod i gymdeithasu ac i integreiddio gyda'i gilydd yma. Mae'r grwpiau gwahanol sydd gyda ni yn bendant yn fwy agored i gyfathrebu syml a thrafod pethau gyda'i gilydd.
(Cyfweliad gan: Sophie Hopkins, myfyrwraig is-raddedig yn y Biowyddorau)