Ewch i’r prif gynnwys

Morvus

Datblygu prototeip o brawf pwynt gofal i ganfod canserau troethgenhedlol.

Bu Morvus Technology Ltd. ac ASTUTE yn gweithio a’i gilydd i ddatblygu technoleg newydd a fydd yn galluogi profion anymwthiol, in vitro am ganserau troethgenhedlol fel canser y bledren.

Mae Morvus Technology Ltd. yn gwmni fferyllol a gafodd ei ffurfio yn Ebrill 2004 i fanteisio ar arbenigedd diamheuol y sefydlwyr ym meysydd cyffuriau a chanfod targedau a masnacheiddio technolegau newydd. Ei brif ffocws yw oncoleg.

Ar hyn o bryd, mae mwy na 300,000 o gleifion yn y DU sy’n cael eu hanfon am cystoscopi diagnostig ymwthiol ar gyfer canser y bledren bob blwyddyn. Cost un prawf diagnostig i’r GIG yw £263, felly amcangyfrifir mai’r gost flynyddol ar gyfer y GIG am yr holl brofion hyn yw £80 miliwn. Mae cytoscopi yn anghysurus i gleifion ac mae’n rhaid iddynt deithio i’r ysbyty i gael y prawf ar hyn o bryd.

Bu Morvus Technology Ltd. yn gweithio gyda’r Athro Ian Weeks a’i dîm ymchwil yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd drwy’r prosiect ASTUTE i ddatblygu technoleg newydd a fydd yn galluogi profi anymwthiol, in vitro am ganserau troethgenhedlol fel canser y bledren. Mae prawf positif yn allyrru golau, felly mae gwahaniaethu rhwng prawf positif a negyddol yn hawdd.

Dim ond sampl wrin sydd ei angen gan y claf ar gyfer y prawf newydd, ac felly, os bydd y prawf yn gallu cael ei gydnabod fel prawf pwynt gofal (POC), gallai gael ei gynnal naill ai mewn labordy mewn ysbyty neu glinig meddyg teulu. Byddai prawf o’i fath yn gostwng cost profion canser y bledren yn sylweddol i’r GIG, ac yn cynnig opsiwn anymwthiol i gleifion.

ASTUTE has enabled us to move the concept of using a cancer cell selective enzyme, to generate a fluorescent product, from the laboratory into a prototype product for the point of care detection of bladder cancer. This has proven to be an excellent and productive collaboration that certainly accelerated product development.

Professor Richard Knox Research and Development Director, Morvus Technology Ltd
ASTUTE and ERDF combined logo strip