Ewch i’r prif gynnwys

Y Ganolfan Ymchwil Drosi

Mae'r Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) yn dod â byd diwydiant a gwyddonwyr at ei gilydd i ddatrys heriau byd-eang cymhleth.

Cardiff Catalysis Institute masthead

Sefydliad Catalysis Caerdydd

Rydym ni’n gwella dealltwriaeth o gatalysis, yn datblygu prosesau catalytig newydd gyda diwydiant ac yn hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.

Mae'r Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) yn dod â byd diwydiant a gwyddonwyr at ei gilydd i ddatrys heriau byd-eang cymhleth.

Mae ymchwilwyr yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) a Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn defnyddio’r cyfleusterau o'r radd flaenaf yn y TRH i gydweithio â phartneriaid masnachol.

Maen nhw’n gweithio ar draws sectorau gan gynnwys ynni, deunyddiau uwch, gweithgynhyrchu cynaliadwy, cludiant, cyfathrebu a gofal iechyd, gan greu technolegau newydd a dechrau llunio cyfeiriadau ymchwil arloesol.

Mae TRH, a ariennir gan lywodraethau'r DU a Chymru, yn galluogi’r broses o dylunio, datblygu a phrofi cynnyrch a phrosesau glanach a gwyrddach gan ddefnyddio’r canlynol yn y Ganolfan: labordai a swyddfeydd pwrpasol, lleoedd cyffredin at ddibenion cydweithio, ystafell lân bwrpasol a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (EDRF) yn ogystal ag ystafell microsgopeg o'r radd flaenaf.

Yn y TRH

Mae'r ganolfan ymchwil, sy’n 129,000 o droedfeddi sgwâr, a ddyluniwyd gan Stiwdio HOK yn Llundain, yn enghraifft o ymrwymiadau'r DU a Chymru i atebion gwyddonol newydd ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â her Sero Net.

Mae ystafell lân arloesol yr ICS, a ariennir gan yr ERDF, yn cynnwys y gallu i dreialu, sefydlu a graddio dyfeisiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) newydd ac arloesol yn unol â’r safonau diwydiannol ar gyfer wafferi hyd at 200mm ar eu traws.

Nod y CCI yw cynnig arbenigedd a gallu ym maes delweddu, dadansoddi a chymeriadu nanoddeunyddiau, a hynny er mwyn hwyluso ffyrdd newydd o ddylunio a syntheseiddio catalyddion.

Sefydliadau

Sefydliad Catalysis Caerdydd

Mae ein sefydliad catalysis blaenllaw yn cefnogi ymchwil sy'n arwain y byd yn y gwyddorau cemegol. Sefydlwyd CCI yn yr Ysgol Cemeg i wella dealltwriaeth o gatalysis, gweithio gyda byd diwydiant i ddatblygu prosesau newydd yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd o gatalysis yn dechnoleg gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif.

Cliciwch yma i gael gwybod am y cyfleusterau a sut y gallwch chi weithio gyda CCI

Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Bydd y Sefydliad yn darparu cyfleusterau sy’n helpu ymchwilwyr a’r diwydiant i gydweithio, gan sicrhau bod Caerdydd yn arwain Ewrop ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS)

Yn sgîl sefydlu’r ICS, Caerdydd bellwch yw arweinydd y DU ac Ewrop ym maes technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Oherwydd yr ICS , mae ymchwilwyr a byd diwydiant yn gallu mynd i'r afael â heriau mawr ymchwil ar y cyd, gan roi atebion y gellir eu cyfuno’n rhan o’r broses gynhyrchu mewn ffordd ddibynadwy a chyflym.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y cyfleusterau a sut y gallwch chi weithio gydag ICS

Cefnogwyd TRH gan gyllidwyr yn y DU a Chymru, gan gynnwys £17.3m drwy law gronfa’r UKRPIF, £12m gan Lywodraeth Cymru, £13.1m o gyllid Ewropeaidd a weinyddir gan WEFO, a £2.7m gan CCAUC.

Mae’r TRH wrth ochr adeilad newydd Prifysgol Caerdydd, sef sbarc|spark. Dyma gartref Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) a Cardiff Innovations@sbarc|spark Caerdydd – canolfan greadigol y Brifysgol ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd.