Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ar bolisi

Prosiect cadwraeth sy'n gwarchod rhai o rywogaethau Borneo sydd fwyaf dan fygythiad drwy weithio'n agos gyda'r llywodraeth i amddiffyn cynefinoedd y goedwig law.

Amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl

Borneo leopard

Am dros ddegawd, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cydweithio ag Adran Bywyd Gwyllt Sabah i nodi a gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd yn nhirweddau rhanedig iawn sy'n llawn palmwydd olew ar orlifdir Kinnabatangan - y gwlypdir mwyaf yn Sabah, Borneo Malaysia.

Dechreuodd y prosiect fel arolwg maes a gwaith ecolegol ar anifeiliaid sydd mewn perygl - gan gynnwys banteng Borneaidd, eliffant Borenaaidd, y mwnci proboscis a llewpard cymylog Sunda gan arwain at Gynlluniau Gweithredu Gwladwriaethol deng mlynedd a pholisiau clodwiw i amddiffyn coedwigoedd glaw .

Dan arweiniad yr Athro Benoît Goossens,Ysgol y Biowyddorau, mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar Ganolfan Maes Danau Girang yn Sabah, lle mae'r Athro Goossens bellach yn Gyfarwyddwr.

Nid yw’r un dalaith arall ym Malaysia wedi lansio mentrau mor uchel eu proffil a seiliedig ar ddeilliannau er mwyn amddiffyn rhai o rywogaethau'r byd sydd fwyaf dan fygythiad. Mae'r cynlluniau gweithredu sydd wedi gallu ffynnu diolch i'r bartneriaeth hon yn darparu canllawiau a strwythur ar gyfer rheoli bywyd gwyllt yn Sabah, gan gynnwys tîm elît o orfodwyr ar lawr gwlad - dull blaengar o amddiffyn anifeiliaid sy'n agored i niwed rhag potsio.

Mr Augustine Tuuga, Cyfarwyddwr Adran Bywyd Gwyllt Sabah Dean of Cardiff Business School

Cadw cynefin coedwig law prin

Arweiniodd arolygon poblogaethau rhywogaethau cychwynnol at weithdai a chynadleddau rhyngwladol, sydd yn eu tro wedi arwain at waith uniongyrchol gyda'r llywodraeth ar gadwraeth y coedwigoedd glaw, ac Aildyfu Borneo yw'r un mwyaf nodedig - prosiect cydbwyso carbon cyntaf y DU – ym mis Hydref 2019.

Eleni, mae partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Aildyfu Borneo eisoes wedi codi bron i £20,000 ar gyfer plannu coed yn y Kinabatangan Isaf a fydd yn cydbwyso'r carbon a grëwyd drwy deithio yn yr awyr, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cefnogi cadwraeth ecolegau lleol yn ogystal â chynnal bywoliaethau a diwylliant lleol.

Mae Canolfan Maes Danau Girang wedi croesawu mwy na 55 o fyfyrwyr o 30 o brifysgolion rhyngwladol, cynnal dros 82 o gyrsiau maes, sicrhau £3.5miliwn mewn cyllid grant, cynhyrchu 16 o ysgoloriaethau PhD ac mae wedi cynhyrchu dros 120 o gyhoeddiadau academaidd.