Ewch i’r prif gynnwys

Effaith Gymdeithasol

Partneriaeth sy'n lleoli'r plant sy'n aros hiraf i gael eu mabwysiadu yng Nghymru.

Mabwysiadu Gyda'n Gilydd

Adopting together

Mae'n heriol dod o hyd i gartrefi parhaol i blant mewn gofal sy'n 4 oed a hŷn, yn enwedig mewn grwpiau o frodyr a chwiorydd. Gall cynlluniau mabwysiadu llawer o'r plant hyn newid i faethu tymor hir, a gallant gael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a'u chwiorydd.

Yn 2019, dangosodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru ddiffyg o bron i draean yn nifer y mabwysiadwyr ers 2014, gyda chynnydd dilynol o 64% yn nifer y plant oedd yn aros am deulu. Bu cynnydd hefyd yn nifer y plant 'blaenoriaeth' oedd yn aros dros 12 mis i ddod o hyd i deulu.

Roedd y Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn gydweithrediad rhwng Cymdeithas Plant Dewi Sant, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Cefnogir y KTP gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Y pwrpas oedd cryfhau gwasanaethau mabwysiadu, gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn tyfu o angen a nodwyd er mwyn dod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant sy'n aros hiraf ac a oedd mewn perygl o newid i drefniadau maethu tymor hir.

Gwasanaeth therapiwtig yw Mabwysiadu Gyda'n Gilydd i blant sy'n aros hiraf am deulu i'w mabwysiadu. Ffurfiwyd ei esblygiad drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Plant Dewi Sant - arbenigwr mabwysiadu sy'n ymroi i ddod o hyd i deuluoedd i blant agored i niwed ledled Cymru.

Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth wedi galluogi cydweithio gan ddefnyddio arbenigedd partneriaid academaidd, therapiwtig, statudol a sector gwirfoddol i ddod o hyd i deuluoedd mabwysiadol ar gyfer rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hwyluso'r berthynas unigryw hon sydd bellach yn mynd o nerth i nerth ac i Innovate UK am gydnabod y dull hwn sy'n arwain y sector ym maes gofal cymdeithasol.

Wendy Keidan, Prif Swyddog Gweithredol Dewi Sant

Cynyddu lleoliadau

Galluogodd y bartneriaeth i Gymdeithas Plant Dewi Sant ddefnyddio ein harbenigedd academaidd, gan drosi canfyddiadau ymchwil Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru yn fethodoleg ymarferol i hwyluso mabwysiadu plant sy'n aros hiraf am deulu parhaol. Cyflawnwyd hyn drwy weithio gyda phartneriaid eraill yn y sectorau statudol a gwirfoddol sy'n ffurfio’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru a phartner therapiwtig.

Drwy gasglu arbenigedd gan seicolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol therapiwtig, mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd wedi gwella bywydau llawer o blant drwy ddarparu ymyrraeth gynnar a chynyddu nifer y lleoliadau i blant sy'n aros i gael eu mabwysiadu.

Hyd yma mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd wedi:

  • Gosod 25 o blant gyda'u rhieni mabwysiadol ers 2018 (roedd cynlluniau llawer ohonynt ar fin cael eu newid o fabwysiadu i faethu tymor hir)
  • Sicrhawyd enillion ariannol o £14.4M
  • Cyfeirir ato bellach yn rhan o'r protocolau safonol ar gyfer holl weithwyr cymdeithasol proffesiynol Cymru.

Yn ogystal â hyn, barnwyd bod y prosiect KTP yn rhagorol gan y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN) a derbyniodd y Wobr am Effaith Gymdeithasol yng Ngwobrau KTP Innovate UK 2021.