Seremonïau'r gorffennol
Mae'r Gwobrau Arloesedd ac Effaith blynyddol, sydd bellach yn ei 22ain flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau cydweithio ein hacademyddion a'n busnesau gyda seremoni a chinio gwobrwyo mawreddog.
Enillwyr 2019
Wedi'i noddi gan Blake Morgan a Symbiosis IP, cynhaliwyd Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2019 yn Amgueddfa Cenedlaethol Caerdydd.
Aeth yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, a gyflwynodd y prif anerchiad, i'r digwyddiad. Hefyd, cyflwynodd y Gweinidog Wobr Dewis y Bobl, ar sail pleidlais y cyhoedd, a aeth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Ysgol Seicoleg am godi ymwybyddiaeth o ARWYDDION awtistiaeth mewn plant.
Edrychwch ar yr oriel luniau o'r noson ar Flickr.
Gwobr Arloesi Busnes
Gwyliwch y wobr Aloesi Busnes ar YoutTube
Gwobr Arloesi Cynaliadwy
Gwyliwch y wobr Arloesi Cynaliadwy ar YoutTube
Gwobr Arloesi yn Gofal Iechyd
Gwliwch y wobr Arloesi yn Gofal Iechyd ar YoutTube
Gwobr Arloesi mewn Partneriaeth
Blynyddoedd blaenorol
Wedi'i noddi gan Blake Morgan, Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd, Symbiosis IP ac IP Group, cynhaliwyd Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2018 yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, Caerdydd.
Aeth yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan a Dr Ian Campbell (Cadeirydd Gweithredol Innovate UK), a gyflwynodd y prif anerchiad, i'r digwyddiad. Hefyd, cyflwynodd Dr Campbell Wobr Dewis y Bobl i TeloNostiX a'r Ysgol Meddygaeth am eu gwaith o ddatblygu adnodd diagnostig ar gyfer canser.
Yn 2018 roedd y Gwobrau Arloesedd ac Effaith yn dathlu ei 20fed pen-blwydd ac i gydnabod y cyflawniad hwn comisiynwyd fideo arbennig a dangoswyd ef ar y noson:
Gwyliwch y fideo ar gyfer 20fed pen-blwydd y Gwobrau ar YouTube
Gwyliwch y Wobr Arloesedd Busnes ar YouTube
Gwyliwch y Wobr Effaith Ryngwladol ar YouTube
Gwyliwch y Wobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd ar YouTube
Wedi'i noddi gan Blake Morgan, Symbiosis IP ac IP Group, cynhaliwyd Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2017 ar 26 Mehefin 2017 o flaen gwesteion gan gynnwys Julie James AC, a gyflwynodd y prif anerchiad. Hefyd, cyflwynodd Julie Wobr Dewis y Bobl i Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân a'r Ysgol Seicoleg am eu gwaith ar wneud penderfyniadau yn y gwasanaethau brys sydd wedi mynd ymlaen i gael rhagor o ganmoliaeth ar gyfer pawb a oedd yn rhan o'r gwaith ac mae wedi'i gyflwyno ar draws y gwasanaethau brys.
Edrychwch ar yr oriel luniau o'r noson
Gwyliwch y Wobr Arloesi mewn Polisi ar YouTube
Gwyliwch y Wobr Arloesedd Meddygol ar YouTube
Sut i ymaelodi gyda'r Rhwydwaith Arloesedd