Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau blaenorol 2018

Mae dros 11,200 o bobl wedi mynychu dros 160 o ddigwyddiadau rydym wedi cynnal ar gyfer busnesau lleol ac arloeswyr, gyda thua 100 o bobl yn mynychu bob digwyddiad.

Mae'r canlynol yn ddetholiad o ddigwyddiadau rydym wedi cynnal yn 2018, yn cynnwys themau fel arloesedd, entrepreneuriaeth a menter. Gallwch weld rhagor o wybodaeth a chyflwyniadau o bob digwyddiad.

Gwnaeth y sesiwn hwn gyflwyno golwg holistaidd o Ddementia, o ymchwil i ymarfer a gofal. Yn amlinellu rhai o brif waith ymchwil wedi'i wneud hyd yn hyn a'r datblygiadau newydd gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Dementia gwerth £250miliwn. Roedd y sesiwn hefyd yn edrych ar ddulliau gweithredu gofalwyr ac ymarferwyr cyfredol yng Nghymru a sut mae ymchwil presennol a'r dyfodol yn cael effaith ar ymarfer a gofal cymunedol y GIG.

Dyddiad: 31 Ionawr 2018
Cadeirydd: Yr Athro Keith Harding, Pennaeth Gwyddor Pensaernïol, Prifysgol Caerdydd
Siaradwyr:

  • Dr Annie Proctor, Genetegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'u dull gweithredu at ddementia
  • Yr Athro Julie Williams, Athro, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd - Prifysgol Caerdydd a'u gwaith ar ddementia
  • Yr Athro Antony Bayer, Athro Meddygaeth Geriatrig, Prifysgol Caerdydd - Prosiectau Dementia a'u canlyniadau yng Nghaerdydd
  • Beti George, Darlledwr a Newyddiadurwr - Profiad personol

Bydd recordiad o'r sesiwn ar gael yn fuan.

Roedd y sesiwn yn rhoi cyfle i glywed gan Dr Ruth McKernan CBE, a ymunodd â Innovate UK fel Prif Weithredwr ym mis Mai 2015. Mae gan Ruth 25 mlynedd o brofiad ymchwil a masnach yn y diwydiant fferyllol, gan gynnwys arwain unedau ymchwil yn y DU ac UDA. Mae'n aelod o Banel Cynghori Arloesedd y Weinyddiaeth Amddiffyn a Phwyllgor Cymdeithas Frenhinol Gwyddoniaeth, Diwydiant a throsglwyddiadau. Roedd Ruth hefyd yn aelod o gyngor ar gyfer Cyngor Ymchwil Meddygol am bum mlynedd. Dyfarnwyd CBE i Ruth yn 2013 am ei gwasanaethau i fusnes, arloesedd a sgiliau. Roedd y digwyddiad yn trafod y datblygiadau diweddaraf yng nghefnogaeth Innovate UK ar gyfer arloeswyr y DU, ac yn canolbwyntio'n bennaf ar weithgareddau yng Nghymru. Disgrifiodd Ruth y cyfleoedd newydd ar gael o fewn y Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol a thrwy ffurfio Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Dyddiad: 28 Chwefror 2018
Siaradwr: Dr. Ruth Mckernan, CBE - CEO Innovate UK

Cyflwynwyd y ddarlith hon mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) a'r Ymgyrch ar gyfer Gwyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE)

Edrychodd y sesiwn hwn ar wyddor data a dadansoddi ac yn benodol y cyswllt i ymarferion arloesi a'r bwlch sgiliau presennol yn y DU. Rhoddodd siaradwyr o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol drosolwg o Gampws Gwyddor Data newydd trawiadaol, eu strategaeth a dulliau. Amlinellodd y Brifysgol rai o fentrau presennol a'r dyfodol ar gyfer mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau.

Dyddiad: 18 Ebrill 2018
Cadeirydd: Yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter, Athro Dadansoddi Sefydliadol, Prifysgol Caerdydd

Siaradwyr:

  • Dave Johnson, Dirpwyr Gyfarwyddwr, Partneriaethau a Chyfnewid Gwybodaeth, Campws Gwyddor Data, Swyddfa Ystadegau Gwladol a Peter Fullerton, Cyfarwyddwr Casglu Data, Swyddfa Ystadegau Gwladol – Bringing Silicon Valley to the public sector
  • Yr Athro Roger Whitaker, Deon Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd – Data Science Academy.

Mae busnesau yn gyfarwydd â gweithio gyda Phrifysgolion ynghylch arloesedd sy'n datblygu ar sail technoleg. Mae'r elfen gymdeithasol yn bwysig i sefydliadau allu addasu ar gyfer y dyfodol. Edrychodd y digwyddiadu ar sut y gall sefydliadau fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd y ddisgyblaeth ynghylch sut mae pobl yn ymddwyn. Mae hyn yn cynnwys cyfraith, modelu busnes, cysylltiadau masnach a cyflogwr, ffactorau dynol, newid ymddygiad a llawer mwy. Gwnaeth  siaradwyr o'r Brifysgol a diwydiant yn amlinellu rhai o'r prif heriau a chyfleoedd.

Dyddiad: 18 Gorffennaf 2018
Cadeirydd: Yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter, Athro Dadansoddi Sefydliadol, Prifysgol Caerdydd

Siaradwyr:

  • Dr Christian Arnold, Darlithydd y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd - Social-Science/Industry Co-operation in the Age of Big Data
  • Alison John, Yello Brick - Traces - Olion Project
  • Phil McEvoy, Prif Weithredwr Six Degrees - Empowered Conversations: Communication Training for Carers of People Living with Dementia
  • Bruce Etherington, Rheolwr Effaith, Prifysgol Caerdydd - Gweithio gyda'r Brifysgol – Business Boost Fund.

The advances in technology and peoples changing perceptions, mean travel around the UK could dramatically change. This will affect how we move people, services and goods, creating a new ecosystem of mobility. The shift will affect far more than automakers—industries from insurance to health care and from energy and media, should reconsider how they create value in this emerging environment.

There is already significant activity happening in the UK in this area and the UK's Industrial Strategy outlines Future Mobility as one of four key themes, aiming to place the UK as a world leader in this space.

This session explored some of the themes around future mobility, with particular focus on autonomous vehicles. Speakers from industry and academia shared some of the latest developments and encouraged engagement on future opportunities such as the Industrial Strategy.

Date: 26 September 2018
Chair: Professor Sam Evans, Head of School of Engineering, Cardiff University

Speakers

  • Prof Simon Gibson CBE, Chief Executive, Wesley Clover - 'Autonomous Vehicles, Changing perceptions of vehicle ownership and modern living
  • Robin Gissing, Innovation Technologist, Heathrow Innovation Team - 'Automating Heathrow'
  • Prof Lorraine Whitmarsh, Cardiff University - 'Cardiff University Transport Futures Research Network'

A recording of this event will be available shortly.