Ein statws Masnach Deg
Ym mis Mehefin 2007 enillodd y Brifysgol statws Masnach Deg gan Sefydliad Masnach Deg, elusen sydd yn ymrwymo i roi cytundeb gwell am eu cynnyrch i gynhyrchwyr dan anfantais yn y byd datblygol.
Mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr wedi ymrwymo i gefnogi, hybu a defnyddio cynnyrch masnach deg.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn cymryd camau i gynnal statws Masnach Deg, fel y diffinnir gan y Sefydliad Masnach Deg ac ymrwymo’n hunain i’r 5 nod a osodwyd gan y Sefydliad drwy’r camau isod:
- Bydd bwydydd Masnach Deg ar werth yn holl siopau’r campws ac yn cael eu defnyddio mewn caffis/ bwytai/bariau ar y campws. Os nad ydyw hyn yn bosib, mae yna ymrwymiad i ddechrau defnyddio bwydydd masnach deg yn y sefydliadau cyn gynted ag sy’n bosib gwneud.
- Bydd lluniaeth masnach deg (er enghraifft coffi a the) yn cael eu gweini mewn pob cyfarfod a gynhelir gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Yn ychwanegol, anogir cyfarfodydd allanol i ddefnyddio bwydydd masnach deg lle’n bosib.
- Bydd y broses o gyflawni a chynnal statws Masnach Deg y Brifysgol yn cael ei gydlynu gan y Tasglu Masnach Deg a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr. Bydd y grŵp yn goruchwylio gweithredu parhaus o gynllun gweithredu er mwyn cynnal statws Masnach Deg ar gyfer Brifysgol.
- Bydd y Tasglu Masnach Deg yn trefnu cyhoeddusrwydd ar gyfer Pythefnos Masnach Deg a hyrwyddo cynnyrch masnach deg ar sail barhaus i sicrhau ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth.
- Bydd y Tasglu Masnach Deg yn cyflwyno adroddiad blynyddol am ‘Fasnach deg yn y Brifysgol/Undeb y Myfyrwyr’ i Gyngor y Myfyrwyr a Bwrdd y Brifysgol. Bydd hwn wedyn yn cael ei anfon at y Sefydliad Masnach Deg i gyflawni’r gofynion ar gyfer ennill statws Masnach Deg.