Ewch i’r prif gynnwys

Sut i archebu

Os nad ydych yn gwybod beth yw eich gofynion ar hyn o bryd, gellir cadw lle dros dro i chi a gallwn gynllunio yn unol â hynny.

Anfonwch eich archeb trwy ebost at catering@caerdydd.ac.uk gan gynnwys yr enw llawn (unigolion) neu enw a chyfeiriad y cwmni lle mae'r anfoneb i'w hanfon. Sylwch y bydd TAW yn cael ei hychwanegu at y prisiau a gyhoeddir.

Os ydych chi'n aelod o staff y Brifysgol, archebwch drwy’r system archebu arlwyo ar-lein.

Cysylltwch â ni

I wybod mwy am ein bwydlenni, cysylltwch â ni.

Tîm Cynadleddau a Digwyddiadau

Ein addewid i gwsmeriaid

Cyflwyniad

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau arlwyo proffesiynol yn addas i'ch gofynion lletygarwch, o frechdanau i salad i fwydlenni bwyd tri a phedwar cwrs.

  • Mae ein tîm arlwyo mewnol yn cynnig bwyd o ansawdd uchel sy'n cynnig gwerth am arian da.
  • Rydym yn defnyddio'r cynhwysion gorau sydd yn dod o ffynonellau lleol, moesegol neu gynaliadwy.
  • Mae ein holl de a choffi yn fasnach deg yn cefnogi ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol drwy gynnig prisiau gwell, amodau gweithio da, cynaliadwyedd lleol a thelerau masnach deg.
  • Mae ein holl arlwyo lletygarwch a digwyddiadau yn cael ei baratoi'n ffres a'i gludo gan un o'n haelodau tîm ymroddedig a phroffesiynol.
  • Mae'r holl brisiau yn eithrio TAW a fesul person, heblaw a nodir yn wahanol.

Ein bwydlenni a gwasanaethau

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol, mae croeso i chi gysylltu â gweithwyr proffesiynol arlwyo ar catering@caerdydd.ac.uk, estyniad 74027 / 76612, a fydd yn hapus i helpu gyda'ch gofynion. Mae'r tîm yn cynnig dau fath o wasanaeth:

  • Mae ein Gwasanaeth paratoi a chludo bwyd yn darparu cludo a pharatoi eich arlwyo; fodd bynnag mae gweini, ailgyflenwi, tacluso a chlirio'r arlwyo ar ôl y digwyddiad yn cael ei wneud gan y pobl sy'n mynychu'r digwyddiad neu'r berson a wnaeth yr archeb.
  • Mae ein Gwasanaeth Digwyddiad yn darparu tîm digwyddiadau ar y safle drwy gydol yr amser a nodwyd ar eich archeb. Bydd y tîm yn bresennol i oruchwylio'r cyflwyniad, i ailgyflenwi'r bwrdd bwffe, clirio platiau a chwpanau, tacluso a chlirio, a threfnu casgliad ar gyfer yr eitemau a ddefnyddiwyd i gael eu cymryd. Mae'r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos heb unrhyw oriau craidd caethiwus (ac eithrio diwrnod cau y Brifysgol).

Ein gwasanaeth - diwrnodau gweithredu

Mae ein gwasanaeth paratoi a chludo bwyd yn gweithredu 7 diwrnod bob wythnos drwy gydol y flwyddyn heblaw am ddiwrnod cau y Brifysgol (heblaw bod gennych gytundeb ymlaen llaw).

Mae'r gwasanaeth rydym yn ddarparu yn hyblyg ac yn gweddu i ofynion y Brifysgol, gan gefnogi digwyddiadau'r nos a phenwythnosau.

Ein diwrnodau paratoi a chludo craidd ar gyfer paratoi a chludo bwyd ar Gampws Parc Cathays a Champws Parc y Mynydd Bychan yw Dydd Llun i Ddydd Gwener. Mae paratoi a chludo bwyd sydd ar benwythnosau a dros gwyliau banc yn amodol ar ffi ychwanegol o £20.00 yr awr i dalu am gostau ychwanegol.

Darparu staff

Mae staff yn cael eu cynnwys o fewn Bwydlenni Digwyddiadau, ond wedi eu heithrio gan wasanaeth paratoi a chludo bwyd. Os oes angen staff gweini ar gyfer eich digwyddiad paratoi a chludo bwyd, mae staff ar gael am gyfradd fesul awr o £20.00 yr awr am isafswm o 2 awr ac rydym yn argymell cymhareb staffio o 1 aelod o staff i 40 o westeion. Bydd hyn yn dibynnu ar eich math o ddigwyddiad a bydd tîm Arlwyo’r Brifysgol yn cynghori ynghylch staffio priodol ar gyfer eich digwyddiad os bydd angen.

Archebu gwasanaeth a chadarnhau

  • Sylwer na allwn brosesu archebion ond yn ystod ein horiau swyddfa, sef 08:00-17:00.
  • Dylid cyflwyno Archebion Arlwyo trwy e-bost i catering@caerdydd.ac.uk
  • Bydd angen i'r e-bost gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
    • Y gofynion arlwyo llawn, gan gynnwys niferoedd.
      • Y lleoliad a’r amserau dosbarthu
      • Enw a chyfeiriad post llawn ar gyfer yr anfoneb.
      • Unrhyw rif archeb / gyfeirnodau y mae eu hangen ar gyfer yr anfoneb.
  • Rhaid derbyn yr archebion a’r niferoedd terfynol o leiaf pum diwrnod gwaith llawn ymlaen llaw.
  • Gellir derbyn archebion a wneir lai na 5 ddiwrnod gwaith ymlaen llaw yn ôl disgresiwn tîm Rheoli Arlwyo’r Brifysgol. Codir tâl gweinyddol o £15.00 am weinyddu’r archebion hwyr hyn. Bydd y tîm arlwyo yn ymdrechu i gyflawni archebion hwyr; fodd bynnag, mae’n bosib na fydd rhai eitemau o’r fwydlen ar gael, a bydd eitemau eraill o’r fwydlen yn cael eu cynnig yn eu lle, yn ôl disgresiwn y tîm arlwyo.  Lle bo modd, byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw newidiadau.
  • Mae'n ddrwg gennym, ond yn ystod y cyfnod prysur amser cinio, sef 11:30 tan 14:00, ni allwn dderbyn archebion diodydd yn unig ar gyfer llai na 20 o fynychwyr.
  • Nid oes polisi gwerthu neu ddychwelyd ar gyfer archebion a wnaed gan y gwasanaeth darparu lletygarwch.
  • Gwaherddir gwerthu alcohol i rai sydd o dan yr oed cyfreithiol ac mae gan dîm Arlwyo’r Brifysgol yr hawl i wrthod archebion o'r fath.
  • Mae’r prisiau’n gywir ar adeg argraffu. Fodd bynnag, gellir gwneud rhai addasiadau os bydd prinder neu amrywiad tymhorol. Fe'ch hysbysir ynghylch unrhyw newid i’r prisiau ar adeg archebu.

Newidiadau a chanslo

  • Dylid rhoi gwybod am newidiadau neu ganslo trefniadau trwy e-bostio catering@caerdydd.ac.uk, gan ddyfynnu cyfeirnod yr archeb.
  • Os bydd archeb a gadarnhawyd yn cael ei chanslo’n llwyr neu’n rhannol, bydd y taliadau canslo canlynol yn berthnasol:
    • Mwy na 5 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad – dim tâl
    • Llai na 5 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad – 50% o’r incwm disgwyliedig yn seiliedig ar niferoedd
    • Llai nag 1 diwrnod gwaith o rybudd - codir y tâl llawn

Argaeledd a phrisiau

  • Gall bwydlenni newid yn ôl argaeledd cynhyrchion. Bydd tîm Arlwyo’r Brifysgol yn cysylltu â chi os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau i’ch archeb arlwyo

Talu

Anfonir anfoneb am y taliad llawn at y trefnwyr ar ôl y digwyddiad, a rhaid setlo'r cyfrif terfynol heb fod yn hwyrach na 4 wythnos ar ôl derbyn yr anfoneb. Bydd dyledwyr y Brifysgol sydd heb dalu ffioedd yn wynebu camau gweithredu pellach (a all gynnwys achos cyfreithiol) i adennill y symiau sy’n ddyledus.  Bydd unrhyw gostau cysylltiedig (gan gynnwys costau cyfreithiol) a ddaw i ran y Brifysgol hefyd yn cael eu ceisio gan y dyledwr.

Difrod

Cyfrifoldeb y cleient yw sicrhau, ar ddiwedd y digwyddiad, bod yr holl leoliadau wedi cael eu gwacau, a bod yr holl ddodrefn ac eiddo yn cael eu gadael mewn cyflwr glân a phriodol.  Bydd unrhyw ddifrod i eiddo’r Brifysgol yn golygu bod y cleient yn cael anfoneb am gost trwsio/adnewyddu. Mae hyn yn cynnwys difrodi, colli neu ddwyn eiddo’r Brifysgol, a difrod i offer tân neu ei ddefnyddio’n ddiangen.

Dim ysmygu

Mewn perthynas â Deddf Safleoedd Di-fwg, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod ei safleoedd yn gwbl ddi-fwg er mwyn amddiffyn ei holl staff a myfyrwyr, ac mae wedi cyflwyno polisi sy’n cwmpasu deddfwriaeth y Llywodraeth. O ganlyniad, ni chaniateir ysmygu, gan gynnwys defnyddio sigaréts electronig, yn neu ar unrhyw un o safleoedd y Brifysgol, ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig.  Ym mhreswylfeydd y Brifysgol, mae hyn yn cynnwys yr holl ystafelloedd astudio/gwely, y bariau, yr ystafelloedd cyfarfod, y tiroedd a’r ardaloedd cymunedol.   Mae’n ofynnol bod holl aelodau cymuned y Brifysgol, yn fyfyrwyr, ymwelwyr cynadledda ac ymwelwyr, yn dilyn y polisi hwn wrth ddefnyddio safleoedd y Brifysgol.

Trefniadau yswiriant

Rhaid i’r cleient drefnu yswiriant trydydd parti i'r graddau y mae hynny'n ofynnol gan y Brifysgol.  Rhaid i’r cleient indemnio’r Brifysgol yn erbyn pob colled a difrod ac yn erbyn pob hawliad, achos a chost o ganlyniad neu yn sgîl yr archeb.

Ac eithrio mewn achosion lle bu’r Brifysgol yn esgeulus, nid yw Prifysgol Caerdydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrodi eiddo personol neu ei golli.   Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am anafiadau i gynrychiolwyr, ymwelwyr neu westeion tra byddant ar eiddo'r brifysgol. Cynghorir y cleient i drefnu yswiriant digonol.

Ni fydd y Brifysgol yn atebol am fethu â chydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sy’n rhan o’r contract hwn i'r graddau bod cydymffurfio o'r fath yn cael ei atal, ei lesteirio neu ei ohirio am unrhyw achos sydd y tu hwnt i’w rheolaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dân, storm, ffrwydrad, llifogydd, eira, Gweithred gan Dduw, gweithred gan unrhyw Lywodraeth neu Asiantaeth Lywodraethol, prinder deunyddiau neu nwyddau, streic neu gloi allan.

Amodau eraill

Mae’r Cyfleusterau Campws yn ariannu eu hunain ac yn gweithredu Gwasanaeth Cynadleddau a Digwyddiadau fel gweithgaredd masnachol, gyda’r bwriad o greu incwm i’w ail-fuddsoddi yn ystâd y Cyfleusterau Campws.  Nid oes bwriad i’r Cyfleusterau Campws ddadansoddi pob archeb unigol, ond mae’n gyfreithiol ofynnol bod y Brifysgol yn ystyried a yw unrhyw ddigwyddiad yn debygol o gael effaith ar enw da’r Brifysgol.   Mae angen i’r Brifysgol ystyried hefyd a oes unrhyw effaith hysbys neu debygol ar ddiogelwch myfyrwyr, staff neu’r gymuned ehangach sy’n mynychu’r digwyddiad, neu a fydd hynny’n cael ei sbarduno gan y digwyddiad sy’n cael ei gynnal.  Mae hyn yn cynnwys effaith andwyol ar safleoedd a busnes arferol y Brifysgol.

Mae gan Brifysgol Caerdydd hawl i ofyn am wybodaeth ynghylch unrhyw siaradwr allanol arfaethedig neu destun trafodaeth.  Os na roddir digon o wybodaeth, ni chaniateir yr archeb.   Rhaid darparu'r wybodaeth hon o leiaf 21 diwrnod cyn y digwyddiad arfaethedig.  Mae’n ofynnol bod pob siaradwr yn darllen “Polisi Rhyddid Mynegiant y Brifysgol” a’r “Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio”.  Os oes unrhyw bryder y bydd y digwyddiad yn torri unrhyw rai o blith darpariaethau cyfreithiol neu rwymedigaethau’r Brifysgol, gellir gwrthod yr archeb.

Diogelwch bwyd

Ar ôl i’ch bwyd gael ei ddosbarthu, storiwch ef yn ofalus, yn ddigon pell oddi wrth haul uniongyrchol neu ffynonellau gwres, megis rheiddiaduron. Os bydd modd, gofalwch fod cynnyrch hufen ffres yn cael eu cadw ar wahân i fwydydd â blas cryf. Cadwch eich bwyd wedi’i orchuddio nes bod angen amdano, i sicrhau ei fod yn cadw’n ffres.

Bydd bwyd yn dirywio pan gaiff ei adael allan ar dymheredd ystafell am gyfnodau hir. Rydym yn eich cynghori i fwyta eich pryd o fewn 1 awr i’w dderbyn. Ni ddylid bwyta bwyd ar ôl 3 awr am resymau diogelwch bwyd.

Mae gwasanaeth Arlwyo’r Brifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd yn defnyddio cyflenwyr penodol ar gyfer ei holl gynhyrchion bwyd ac felly ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw eitemau bwyd a brynwyd y tu allan a ddefnyddir ar y campws. Yn unol â’r Ddeddf Diogelwch Bwyd, cynghorir cwsmeriaid yn gryf na ddylent fynd ati i baratoi bwyd eu hunain.

Telerau ac amodau'r

Isafwsm archebion a chostau dosbarthu

  • Rhaid archebu gwerth isafswm o £10.00 fesul dosbarthiad
  • Yr adegau dosbarthu safonol ar gyfer Campws Parc Cathays a Champws Parc Mynydd Bychan yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00.
  • Bydd gwasanaeth Arlwyo’r Brifysgol yn dosbarthu gyda’r hwyr ac ar y penwythnos os bydd angen.
  • Cysylltwch â gwasanaeth Arlwyo’r Brifysgol ynglŷn ag unrhyw ofynion ar gyfer penwythnosau neu wyliau banc.

Cyfarpar arlwyo'r brifysgol

  • Bydd yr holl gyfarpar arlwyo sy’n dod gyda’ch archeb yn parhau’n eiddo i wasanaeth Arlwyo’r Brifysgol.  Codir tâl adnewyddu llawn am unrhyw ddifrod i eitemau neu unrhyw eitemau nas dychwelir ar ôl yr archeb.
  • Unwaith y byddwch wedi gorffen gyda’ch eitemau arlwyo, rhowch nhw yn y blychau dosbarthu a ddarparwyd, a gadewch nhw y tu allan i’r ystafell y dosbarthwyd nhw iddi i’w casglu.
  • Nid cyfrifoldeb tîm Arlwyo’r Brifysgol yw pacio’r eitemau a ddosbarthwyd.  Ni chaiff y gwasanaeth hwnnw ei gynnwys ond mewn achosion lle’r archebwyd staff.
  • Os na chaiff yr eitemau eu pacio, bydd hynny’n effeithio ar y rhai sy’n defnyddio'r ystafell gyfarfod ar eich ôl ac yn golygu y codir tâl o 25% o gost eich archeb arnoch, hyd at £25.00.
  • Os na fydd y person drefnodd yr archeb yn bresennol yn y digwyddiad, gofalwch fod rhywun o’r grŵp sy’n mynychu yn ymwybodol bod rhaid i’r holl eitemau gael eu pacio.