Cefnogi myfyrwyr a dangynrychiolir
Rydym yn gwybod bod rhai myfyrwyr yn dod o nifer o gefndiroedd difreintiedig ac amrywiol, felly, fel sefydliad amrywiol a chefnogol rydym yn gwneud popeth posibl i helpu i wneud y farchnad lafur i raddedigion yn deg i bob myfyriwr.
Hyder o ran Gyrfa: chwilio am dalent, amrywiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Nod Hyder o ran Gyrfa yw sicrhau chwarae teg i fyfyrwyr a dangynrychiolir.
Gallwch elwa o safbwynt newydd, syniadau newydd a phâr ychwanegol o ddwylo drwy gynnig profiad gwaith hyblyg, cyfunol neu rithwir i fyfyrwyr. Mae Hyder o ran Gyrfa yn gweithio gyda chyflogwyr i gefnogi myfyrwyr i gael profiad gwaith hyblyg wedi'i deilwra, yn amrywio o 1 i 20 diwrnod o sesiynau blasu gwaith di-dâl i leoliadau â thâl 30 diwrnod (gyda 50% o'r cyflog wedi ei dalu gan y cyflogwr a 50% gan Hyder o ran Gyrfa).
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch careerconfident@caerdydd.ac.uk.