Profiad Gwaith a Lleoliadau
Rydym wedi ymrwymo i roi cyfle i fyfyrwyr ennill cyfleoedd dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith. Gall hyn fod drwy gyfrwng cipolwg profiad gwaith byr, interniaeth taledig neu leoliad o flwyddyn.
Profiad gwaith yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19)
Rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i fyfyrwyr gael cyfleoedd i ddysgu am waith proffesiynol, a lle bo’n bosibl gwneud hyn yn ddiogel, gobeithiwn barhau â hyn.
Rydym eisoes yn gweithio gyda nifer mawr o sefydliadau sydd wedi llwyddo i drosglwyddo eu hinterniaethau a’u lleoliadau profiad gwaith i weithio o bell. Gobeithiwn gefnogi cymaint o fusnesau â phosibl ar yr adeg hon.
Bydd ein tîm ymroddedig, Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol, yn cynorthwyo gyda phob agwedd ar drefnu interniaeth neu leoliad profiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys hysbysebu, llunio rhestr fer, cynnal cyfweliadau ar-lein a monitro cynnydd. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Tîm Profiad Gwaith
Myfyrwyr gyda sgiliau penodol
Mae pob Ysgol Academaidd yn trefnu eu lleoliadau eu hunain. Er enghraifft mae’r MBA a’r MSc cyrsiau Marchnata Strategol yn paru myfyrwyr â busnesau lleol a chenedlaethol i greu cynlluniau marchnata a busnes.
Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn bartneriaeth dair ffordd rhwng sefydliad, myfyriwr graddedig a Phrifysgol Caerdydd. Wedi'i hariannu'n rhannol gan y llywodraeth, mae’r cynllun yn rhoi sgiliau academaidd ac arbenigedd i fusnesau sy’n dymuno arloesi, ehangu neu wella eu perfformiad.
Mae'r manteision yn cynnwys:
- cynnydd mewn proffidioldeb a pherfformiad
- mantais cystadleuol
- gwella prosesau
- lleihau costau
Rhagor o wybodaeth am ein partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth
Byddwch yn geffyl blaen trwy gydweithio gyda'n hacademyddion a defnyddiwch ein cyfleusterau trwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.