Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Caerdydd

Mae Gwobr Caerdydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu prif sgiliau cyflogadwyedd, gan roi mantais cystadleuol iddynt dros eu cyfoedion.

Mae’r wobr yn paratoi cyfranogwyr ar gyfer y broses recriwtio graddedigion ac yn atgynhyrchu’r prif elfennau. Chi fydd yn rheoli'r rhaglen eich hun, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gwneud penderfyniadau sy'n addas i'w datblygiad personol a llwybr gyfra.

Manteision

Drwy gwblhau Gwobr Caerdydd yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael:

  • hunanymwybyddiaeth, yn helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau am gyfeiriad eu taith gyrfa
  • dealltwriaeth o sgiliau a rhinweddau graddedigion mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
  • esiampl ymarferol o sgiliau i ddarparu cyflogwyr y dyfodol.
  • dealltwriaeth dda o broses recriwtio graddedigion
  • elfen ychwanegol ar eu CV, gan ddangos ymgysylltu yn eu potensial gyrfaoedd
  • tystysgrif ddigidol a ellir eu hargraffu a'u ddefnyddio ar LinkedIn
  • cydnabyddiaeth drwy ei gynnwys ar Gofnod Cyflawniad Addysg Uwch Prifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth am y ffyrdd amrywiol gall eich sefydliad gymryd rhan yng Ngwobr Caerdydd, cysylltwch â ni:

Tîm Gwobr Caerdydd