Ardystiad a hyfforddiant sgiliau TG
Mae ein cyrsiau sgiliau TG yn cael eu rhedeg gan hyfforddwr, mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, gan gynnig hyfforddiant strwythuredig, ymarferol i ddechreuwyr a chyfranogwyr lefel uwch.
Os ydych chi’n fusnes sy’n bwriadu datblygu eich staff neu’n unigolyn sydd eisiau cwrs byr i ddatblygu eich sgiliau TG, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant arbenigol gan ymarferwyr proffesiynol ac arbenigol. Mae ein cyrsiau yn adlewyrchu anghenion y diwydiant, maen nhw’n gyfredol, yn hyblyg ac yn mynd i’r afael â’r dechnoleg a’r rhaglenni diweddaraf.
Rydym naill ai angen gorchymyn prynu i anfonebu yn ei erbyn, neu daliad uniongyrchol, i gwblhau eich archeb. Mae’n bwysig eich bod yn cyfeirio at fanylion cwrs cyn cadw lle, er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r holl ragofynion.
Mae'r tudalennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
For further information contact: