Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb anabledd yn y gwaith

Gwella polisïau ac arferion cydraddoldeb anabledd yn y gwaith yn y DU.

Women working in front of whiteboard

Mae pobl anabl yn cynrychioli un rhan o chwech o’r boblogaeth oedran gweithio yn y DU.

Mae eu cyfradd cyflogaeth gymharol isel, sef tua 50%, yn fath sylweddol o allgáu cymdeithasol ac mae wedi bod yn destun pryder parhaus i'r llywodraeth.

Ers 2013, mae ymchwil Prifysgol Caerdydd i'r maes hwn wedi gwneud cyfraniad hynod werthfawr i wella bywydau pobl anabl ym Mhrydain, drwy graffu ar bolisïau'r llywodraeth a honiadau o anghydraddoldeb yn y farchnad sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Mae'r gwaith hwn wedi sefydlu metrigau cenedlaethol ac wedi monitro tueddiadau cydraddoldeb yn y farchnad lafur tra'n gwella cywirdeb prosesau ar gyfer casglu data anabledd yn genedlaethol, gan arwain at newidiadau sylweddol i bolisïau ac arferion sy'n ymwneud ag anabledd a gwaith yn y DU.

Mesur y bwlch cyflogaeth anabledd

Ers 2013, mae ymchwil gan yr Athro Melanie Jones a'r Athro Vicki Wass wedi nodi graddfa a chwmpas y bwlch cyflogaeth anabledd.

Mae'r bwlch cyflogaeth wedi bod yn ddangosydd allweddol o anghydraddoldeb anabledd yn y farchnad ers 2008, a rhwng 2015 a 2017 fe'i defnyddiwyd i fesur cynnydd ar ymrwymiadau cenedlaethol ar gyfer cyflogaeth anabledd. Ar ôl methu â gwneud cynnydd sylweddol tuag at ei darged yn 2015 i haneru'r bwlch cyflogaeth, gwanhaodd y llywodraeth ei tharged yn 2017.

Drwy eu hymchwil, canfu'r Athro Jones a’r Athro Wass nad oedd sail gadarn i honiad Llywodraeth y DU ei bod wedi lleihau'r bwlch cyflogaeth. O ganlyniad i hyn, gwnaethant ddadlau dros wella cywirdeb tystiolaeth genedlaethol, gydag argymhellion yn cynnwys ehangu’r monitro drwy gynnal sawl arolwg a dull o fesur anabledd, a sicrhau dilyniant o ran casglu data.

Arweiniodd hyn at welliannau sylweddol drwy wella cywirdeb prosesau cenedlaethol ar gyfer casglu a monitro data anabledd, sy'n hanfodol ar gyfer deall y bwlch cyflogaeth a dwyn y llywodraeth i gyfrif ar ei hymrwymiadau.

disability@work

Yn 2016, cyfrannodd yr Athro Jones a'r Athro Wass at y gwaith o ffurfio disability@work.

Cafodd eu hadroddiad a arweinir gan ymchwil, Ahead of the Arc, a gynhyrchwyd ar y cyd â Disability Rights UK, ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016.

Roedd yr argymhellion yn cynnwys:

  • ymyriadau polisi sydd eu hangen i ffafrio rhagolygon swyddi pobl anabl yn benodol
  • rhaid i sefydliadau ddysgu casglu, cofnodi a monitro statws anabledd eu defnyddwyr, cyflogeion neu ymgeiswyr, er mwyn olrhain cynnydd tuag at dargedau
  • dylai fod yn ofynnol i sefydliadau sector preifat sy'n cael contractau i gyflenwi'r sector cyhoeddus ddangos bod ganddynt gynllun i gynyddu cyfran y bobl anabl a gyflogir

Newidiodd yr adroddiad argymhellion polisi sefydliadau cydraddoldeb anabledd blaenllaw, gan gynnwys Disability Rights UK a'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol (Anabledd). Arweiniodd ei argymhellion at ffocws polisi newydd ar sefydliadau a threfniadau mesur ac adrodd sefydliadol.

O ganlyniad i adroddiad Ahead of the Arc ac argymhellion eraill disability@work cafwyd newidiadau mewn polisïau ac arferion cenedlaethol, gan gynnwys lansio Fframwaith Adrodd Gwirfoddol Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2018 i gefnogi cyflogwyr i ymrwymo i lunio adroddiadau ar anabledd yn y gweithle.

Yn 2019, pasiodd Aelodau Seneddol gynnig ('early day motion') i gydnabod cyfraniad disability@work i wella bywydau pobl anabl ar draws Prydain.

Effaith barhaol ar les a chynhwysiant cymdeithasol

Drwy graffu ar y cynnydd o ran ymrwymiadau cyflogaeth anabledd y llywodraeth, gwella'r prosesau cenedlaethol ar gyfer casglu data ar anabledd, a hyrwyddo trefniadau sefydliadol i fesur anabledd, mae'r ymchwil hon wedi cael effaith amlwg ar bolisïau'r DU.

Er ei bod yn rhy gynnar i fesur effeithiau cymdeithasol ac economaidd disgwyliedig y newidiadau polisi hyn, mae'r manteision i bobl anabl yn debygol o fod yn enfawr.

Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y 3.7 miliwn o bobl anabl sy’n ddi-waith yn y DU ar hyn o bryd.

Baumberg, B., Jones, M., and Wass, V. (2015) Disability and disability-related employment gaps in the UK 1998-2012: different trends in different surveys? Social Science and Medicine 141, 72-81. 10.1016/j.socscimed.2015.07.012

Connolly, P., Bacon, N., Wass, V., Hoque, K., and Jones, M. (2016) Ahead of the Arc – a Contribution to Halving the Disability Employment Gap. A report produced by APPG (Disability). https://www.disabilityrightsuk.org/sites/default/files/pdf/AheadoftheArc110518.pdf