Ewch i’r prif gynnwys

Pontio'r bwlch atebolrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus

Arweiniodd ein hymchwil at ddatblygu llawlyfr newydd i alluogi gwell atebolrwydd ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi’r broses o ddatblygu deddfwriaeth newydd ar weithio ar y cyd yng Nghymru.

Cardiff City Hall

Mae mathau newydd a chymhleth o fentrau cydweithredol mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi creu bwlch atebolrwydd.

Er mwyn llenwi'r bwlch hwn, daeth awdurdodau lleol at ei gilydd i roi modelau atebolrwydd cydgysylltiedig ar waith.

Gan gydnabod manteision dulliau o'r fath, ceisiodd ymchwilwyr o Ysgol Busnes Caerdydd fynd i'r afael â'r diffyg canllawiau clir ar sut i graffu ar y cyd yn effeithiol.

Cafodd eu hymchwil ddylanwad ar gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i'w Chronfa Datblygu Craffu ac arweiniodd at Lawlyfr Craffu ar y Cyd ar gyfer llywodraethau lleol.

Mabwysiadwyd y Llawlyfr hwn yn eang, gan gyflawni’r canlynol:

  • llywio cynigion deddfwriaethol ar gyfer system newydd o gydweithio yng Nghymru
  • bod yn sail i hyfforddiant gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sy’n gweithredu ledled y DU
  • gwella arferion awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Diffyg atebolrwydd

Rhwng 2000 a 2004, cynhaliodd yr Athro Rachel Ashworth a'r Athro James Downe 'archwiliad' o waith craffu ar lywodraeth leol o dan system newydd ar gyfer Cymru a Lloegr.

Er bod gwaith craffu yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at adolygu polisïau mewn rhai awdurdodau, datgelodd yr archwiliad nad oedd y gwaith craffu yn dwyn swyddogion gweithredol i gyfrif yn effeithiol. Yn yr un modd, roedd gwaith craffu ar sefydliadau allanol yn weithgaredd ymylol i'r rhan fwyaf o awdurdodau.

Yn dilyn ymchwil bellach daeth pryderon i’r amlwg ynglŷn â’r atebolrwydd a grëwyd gan bartneriaethau yn rhanbarthau Lloegr.

Roedd yn amlwg i'r Athro Ashworth fod mwy o gyllid, hyfforddiant ac arweiniad yn hanfodol i wleidyddion sydd â chyfrifoldeb dros graffu ar sefydliadau mawr, sy’n arwyddocaol o safbwynt ariannol ac sydd â chylchoedd gwaith eang.

Yng Nghymru, dangosodd gwerthusiad yr Athro Downe o drefniadau craffu fod effeithiolrwydd yn cael ei yrru gan gyd-destun pob cyngor a’r gwerth yr oedd arweinwyr cynghorau yn ei roi ar waith craffu.

Canfu fod nad oedd gwaith craffu ar y cyd wedi'i ddatblygu'n ddigonol, a nododd fod angen dybryd i gynghorau weithio gyda'i gilydd i gynhyrchu gwerth ychwanegol drwy gyfuno eu hadnoddau.

Ffyrdd newydd o weithio

Gyda chapasiti ymchwil yn y maes hwn yn datblygu, galwodd tîm Prifysgol Caerdydd ar lywodraethau i ddarparu canllawiau digonol i'r rhai sy'n gwneud gwaith craffu i gefnogi a galluogi prosesau casglu tystiolaeth.

Mewn gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, argymhellodd yr ymchwilwyr y dylid rhoi canllawiau ar gyfer craffu ar y cyd i helpu i fynd i'r afael â heriau ymarferol.

Amlygodd yr adroddiad y canlynol:

  • yr angen i roi sylw brys i strwythurau a diwylliannau, ac i rannu arferion
  • yr anawsterau sy’n codi o ganlyniad i gymhlethdod gwasanaethau cyhoeddus cyfoes
  • diffyg arbenigedd i holi gwasanaethau ar sail thematig
  • cyfyngiadau o ran y capasiti sydd ei angen i graffu’n effeithiol mewn cyfnod o gyni

Yn 2012, gofynnwyd iddynt gynnal gwerthusiad annibynnol o effeithiolrwydd Cronfa Datblygu Craffu Llywodraeth Cymru.

Er bod arferion da ar draws awdurdodau lleol yn anghyson, roedd y gronfa'n rhoi cyfleoedd i dimau craffu dreialu ffyrdd newydd o weithio drwy gyfeillio â chydweithwyr o feysydd eraill, neu eu cysgodi, gan wella eu diwylliannau craffu a chyd-gomisiynu hyfforddiant o ansawdd gwell i'w gynnig yn fewnol.

Roedd eu gwerthusiad o'r Gronfa Datblygu Craffu yn sail i benderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau fuddsoddi’n ariannol yn y maes hwn ac i ddefnyddio adnoddau ychwanegol i gryfhau gwaith craffu ar y cyd at y dyfodol.

Adnodd byw

Un o'r prosiectau a ddaeth i'r amlwg o ganlyniad i’r gefnogaeth newydd i'r Gronfa Datblygu Craffu oedd y Llawlyfr Craffu ar y Cyd.

Seiliwyd y Llawlyfr ar ymchwil gan yr Athro Ashworth, yr Athro Downe a Rebecca David-Knight, gynt o Lywodraeth Cymru, a chafodd ei ddatblygu ar y cyd â rheolwyr llywodraeth leol o dri chyngor yng Nghymru.

Roedd mewnbwn gan bob un o'r 22 o dimau craffu yng Nghymru, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru, a phartneriaid rheoleiddio, yn sicrhau bod y Llawlyfr yn canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda chanllawiau ar:

  • ddewis y model cywir
  • cynllunio cylch gorchwyl
  • penodi craffwyr
  • sefydlu cefnogaeth swyddogion
  • rheoli adolygiad craffu ar y cyd
  • cydlynu’r broses o gasglu tystiolaeth
  • trefniadau adrodd
  • cofnodi pwyntiau dysgu ar gyfer gwelliannau parhaus

Dosbarthwyd y Llawlyfr yn eang ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr yn 2015 a 2016. Bwriadwyd i’r Llawlyfr fod yn adnodd byw i gadw i fyny â datblygiadau polisi cyhoeddus, a chyhoeddwyd ail fersiwn yn 2017 a oedd yn cynnwys astudiaethau achos newydd.

Ers ei gyhoeddi, mae'r Llawlyfr wedi llywio cynigion deddfwriaethol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd wedi sefydlu system newydd o Gyd-bwyllgorau Corfforedig i Gymru.

Yn hanfodol, mae hefyd wedi dylanwadu ar arferion drwy hyfforddiant a gwaith datblygu ar draws y sector.

Yng Nghymru, fe'i defnyddiwyd gan gynghorau mewn gwahanol ffyrdd: o annog cydweithio, i gefnogi datblygiad cynigion a chynnig opsiynau amgen ar gyfer craffu ar y cyd, i ddefnyddio rhestrau gwirio ac astudiaethau achos o arferion da.

Yn Lloegr, defnyddiwyd y Llawlyfr i wella atebolrwydd a gwaith craffu ar Bartneriaethau Menter Lleol a gwasanaethau iechyd.

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Cyhoeddiadau dethol