Ewch i’r prif gynnwys

Julie-Ann Haines

Cefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Gweithredol yn 2020, cyn hynny fi oedd Cyfarwyddwr Cwsmeriaid y Gymdeithas ers 2012.

Cyn ymuno â Principality, roeddwn yn uwch reolwr ym maes gwerthu, marchnata a thechnoleg i gwmnïau megis Sainsbury's a HBOS. Mae gweithio'n agos gyda chwsmeriaid wedi bod yn rhan hanfodol o'r hyn dwi'n ei wneud erioed.

Rwy'n angerddol am y Gymdeithas, ac am sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein hethos a'n gwerthoedd cydfuddiannol sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau, ac yn adeiladu hefyd ar ei phrofiad gwych i gwsmeriaid ac o ran diwallu anghenion ein haelodau.

Fy rôl i yw arwain y tîm Gweithredol i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni strategaeth y Gymdeithas a’i gwaith trawsnewid hefyd er budd hirdymor ein Haelodau a sicrhau bod gweithrediadau’r sefydliad yn digwydd yn llyfn o ddydd i ddydd, gan gefnogi cydweithwyr ac adeiladu diwylliant cynhwysol a deniadol.