Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor fel rhan o’ch gradd israddedig

Lle bynnag yr ewch chi, mae astudio dramor yn brofiad bythgofiadwy.

Cymerwch egwyl o’ch astudiaethau drwy nofio yng Nghefnfor yr India ar arfordir gorllewin Awstralia. Beiciwch drwy strydoedd coblog Nyhavn ym mhrifddinas Denmarc. Dine à la française yng nghysgod y Tŵr Eiffel. Gwyliwch yr haul yn machlud o Victoria Peak yn Hong Kong. Gwnewch eich ffordd drwy lethrau Alpau’r Swistir.

Manteisiwch ar y cyfle i ddatblygu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y Brifysgol a defnyddio sgiliau newydd yn byw ac yn astudio mewn gwlad arall.

Graddau gydag iaith

Dewiswch rhwng Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg yn rhan o'ch cwrs gradd pedair blynedd a threulio eich trydedd flwyddyn yn un o’n sefydliadau partner yn Ffrainc, Sbaen, yr Almaen neu’r Swistir.

Mae croeso i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio gradd gydag iaith Ewropeaidd, dyma eich cyfle i chi i ymarfer sgiliau iaith dramor datblygedig wrth ddysgu am ddiwylliannau ac economïau busnesau Ewropeaidd.

Astudiais i dramor ym Mhrifysgol Valencia. Roedd yn brofiad anhygoel! Bydd yn syndod ichi ba mor gyflym rydych yn addasu i ffordd wahanol o fyw a siarad. Es i yno'n ferch ddihyder oedd yn ofni'r syniad o fyw dramor, ac rwyf i wedi dod yn ôl yn fenyw llawn cymhelliad sy'n gwybod beth mae hi'n ei ddymuno mewn bywyd.

Kelly Louise Tavener, BSc Rheoli Busnes gydag Iaith Ewropeaidd (Sbaeneg)

Astudio dramor yn Saesneg

Oherwydd ein hagwedd fyd-eang rydym wedi meithrin partneriaethau â phrifysgolion ac ysgolion busnes yn Ewrop a thu hwnt yn Hong Kong, Tsieina, Singapore, De Corea, Japan, Awstralia, UDA a Chanada.

Mae’r partneriaethau hyn yn rhoi’r cyfle i chi dreulio rhan o’ch gradd yn astudio yn yr iaith Saesneg heb fod angen sgiliau iaith dramor datblygedig arnoch.

Mae croeso i holl fyfyrwyr israddedig, a byddwch yn trosglwyddo o fersiwn bedair blynedd o’ch rhaglen radd ac yn treulio eich trydedd flwyddyn dramor.

Daniel Davies
Daniel yn nofio gyda morgi morfilaidd oddi ar arfordir gorllewin Awstralia yn ystod ei semester yn astudio dramor.

Cwblheais fy semester dramor ym Mhrifysgol Curtin, Perth, yng ngorllewin Awstralia. Rhaid i chi fanteisio ar y cyfle i astudio dramor fel rhan o’ch gradd os cewch chi. Does dim dwywaith am hynny! Bues i ar sawl taith fythgofiadwy! Uchafbwynt oedd nofio gyda morgwn morfilaidd, y pysgodyn mwyaf yn y môr, yn Rîff Ningaloo ym Mae Coral.

Daniel Davies, BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol)

Lleoliadau gwaith dros yr haf

Myfyrwyr israddedig Ysgol Busnes Caerdydd
Myfyrwyr israddedig Ysgol Busnes Caerdydd yn mwynhau lleoliad mewn ysgol haf rhyngwladol am bedair wythnos gyda Phrifysgol Economeg a’r Gyfraith Zhongnan (ZUEL) yn Wuhan, Tsieina.

Os byddai’n well gennych astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor dros wyliau’r haf, mae ein Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn trefnu lleoliadau tymor byr – am uchafswm o bedair wythnos – mewn lleoliadau ledled y byd. Gallwch:

  • Archwilio pynciau nad ydynt yn gysylltiedig â’ch gradd.
  • Datblygu eich gwybodaeth am bynciau sy’n gysylltiedig â’ch gradd.
  • Cael profiad gwaith gyda chwmnïau byd-eang a chenedlaethol dramor.
  • Cymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli mewn lleoliadau megis Fiji, Japan, Cambodia ac India.

Mae amrywiaeth o ffynonellau ariannu a bwrsariaethau ar gael i helpu i dalu am y costau o fynd dramor. Mae hyn yn golygu bod lleoliadau rhyngwladol yn fwy hygyrch i’n myfyrwyr israddedig.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, cysylltwch â'n Tîm Cyfnewid Rhyngwladol.

Picture of Leanne Chung

Dr Leanne Chung

Cyfarwyddwr Cyfnewid Rhyngwladol

Telephone
+44 29208 75250
Email
ChungL1@caerdydd.ac.uk
Natalie James

Natalie James

Swyddog Prosiect Symudedd Rhyngwladol

Email
carbs-exchange@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0985