Llunio rhaglenni meistr newydd i arweinwyr yfory
Rydyn ni wedi lansio tair rhaglen MSc newydd sy’n bodloni galw’r diwydiant sy’n tyfu’n gyflym: Dadansoddeg Busnes, Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol, a Rheolaeth Peirianneg.
Mae’r rhaglenni hyn, a luniwyd ar y cyd ag academyddion blaenllaw ac arbenigwyr yn y diwydiant, yn cyfuno theori flaengar ag arferion yn y byd go iawn, gan roi’r sgiliau a’r hyder i fyfyrwyr lunio dyfodol byd busnes a’r gymdeithas.
Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth.
Dadansoddeg Busnes (MSc)
Trawsnewid data yn benderfyniadau busnes grymus
Dysgwch sut i harneisio data mawr, deall y cyd-destun, cymryd camau dilynol a sbarduno newid ystyrlon. Ysgol Busnes Caerdydd a'r Ysgol Mathemateg sy’n cyflwyno’r MSc ar y cyd.
Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol (MSc)
Meistrolwch ddyfodol byd cyllid
Cyfunwch egwyddorion craidd byd cyllid â'r wybodaeth ddiweddaraf ym maes arloesi Technoleg Ariannol er mwyn arwain mewn cyd-destun ariannol byd-eang sy'n datblygu'n gyflym iawn. Ysgol Busnes Caerdydd sy’n cyflwyno’r MSc.
Rheoli Peirianneg (MSc)
Arwain ym maes arloesi ac ysgogi newid
Datblygwch y sgiliau arwain a rheoli i ategu eich arbenigedd technegol a sbarduno effaith gynaliadwy ar draws diwydiannau. Yr Ysgol Peirianneg ac Ysgol Busnes Caerdydd sy’n cyflwyno’r MSc.
Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaeth Ôl-raddedig a Addysgir i gynorthwyo myfyrwyr Cartref a’r UE sydd eisiau astudio rhaglen Meistr.