Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu

Wedi'i ysbrydoli gan ein strategaeth Gwerth Cyhoeddus, mae'r adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Sefydliad yn ceisio meithrin a datblygu'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion, gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr, gan eu gwneud yn bobl moesol a sympathetig tuag at heriau cymdeithasol ac economaidd ein hoes.

Rydym ni'n cyflawni hyn drwy gwricwlwm arloesol, rhyngddisgyblaethol wedi’i arwain gan her. Mae themâu ymchwil allweddol yr adran MEO - rheoli, rheoli adnoddau dynol, astudiaethau sefydliadol, cysylltiadau cyflogaeth, rheoli iechyd, rheolaeth gyhoeddus a pholisi cyhoeddus - i gyd yn rhan bwysig o’n cwricwlwm ar draws gwahanol raglenni addysgu.

Mae addysgu a arweinir gan ymchwil yn allweddol i'n dull gweithredu. Drwy’r dull hwn, mae cynnwys, deunyddiau a phroblemau'n cael eu llywio'n uniongyrchol ac yn seiliedig ar ymchwil gan gydweithwyr academaidd ac ymarferwyr yn yr adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau (MEO).

Dr Deborah Hann Uwch-ddarlithydd Cysylltiadau Cyflogaeth, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)

Astudiaethau ôl-raddedig

Rydym yn cynnig ystod o raglenni rheoli ôl-raddedig arbenigol sy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd addysgu rhyngddisgyblaethol ac a arweinir gan ymchwil:

Rydym hefyd yn cyfrannu at MBA Caerdydd, yr MSc mewn Rheoli Busnes, MSc Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth a'r Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd (gydag opsiwn MSc).

Astudiaethau israddedig

Ar lefel israddedig, rydym yn cyfrannu at y rhaglen Rheoli Busnes, gan gynnig ystod o fodiwlau arbenigol ym meysydd rheoli, rheoli adnoddau dynol, astudiaethau sefydliadol, rheolaeth gyhoeddus a pholisi cyhoeddus.

Rhaglen PhD

Mae'r Adran MEO yn cefnogi grŵp gweithgar a thalentog o Fyfyrwyr PhD. Mae myfyrwyr PhD fel arfer yn gysylltiedig ag un o grwpiau ymchwil yr Adran MEO. Rydym yn croesawu ceisiadau PhD newydd gan y rhai sydd â diddordeb mewn astudio yn unrhyw un o'r meysydd ymchwil sy'n gysylltiedig â'r adran MEO.

Gellir cyfeirio ymholiadau cyffredinol am y broses ymgeisio at dîm PhD yr Ysgol Fusnes:

Business School PhD team