Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu ac addysgu

Mae Economeg yn bwnc heriol lle mae angen ystod eang o sgiliau, gan gynnwys sgiliau mathemategol, ystadegol, cyflwyno data, ac ysgrifennu.

Wrth i chi astudio ar gyfer gradd ym maes Economeg neu radd cydanrhydedd, rydym yn ceisio addysgu’r rhain i chi. Rydym yn helpu ein myfyrwyr i ddod yn economegwyr hyderus, llawn cymhelliant sy'n cael eu mawrygu am eu gallu i ddatrys problemau, yn ogystal â'u gallu i ddeall ac egluro Economeg i gynulleidfa ehangach.

Cefnogaeth

Mae ystod eang o gronfeydd data, siaradwyr gwadd, digwyddiadau gyrfaoedd arbenigol, dulliau addysgu arloesol a darlithwyr ysbrydoledig yn ategu ein haddysgu. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod Economeg ar gael ac yn berthnasol i bawb, beth bynnag fo'u cefndir, hil, rhyw neu grefydd.

Cyrsiau a chyrsiau gradd

I israddedigion, mae gennym ein prif radd Economeg, ynghyd â graddau mwy arbenigol fel Economeg a Chyllid, Bancio a Chyllid ac Economeg Busnes. Mae gennym hefyd ystod eang o raddau cydanrhydedd y gellir astudio ar eu cyfer mewn gwahanol adrannau o fewn yr Ysgol (Economeg a Rheoli) ac mewn gwahanol Ysgolion (Gwleidyddiaeth ac Economeg, Athroniaeth ac Economeg, Hanes ac Economeg ac Iaith ac Economeg).

I raddedigion, mae gennym raglen PhD hynod lwyddiannus sy’n cynnwys dwy flynedd o gyrsiau a addysgir. Mae ein rhaglen PhD yn rhan o'r Rhwydwaith Doethuriaeth Economeg Feintiol, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD dreulio amser yn unrhyw un o adrannau’r rhwydwaith.

Ar hyn o bryd, mae tua 40 o fyfyrwyr PhD ar y rhaglen sy'n astudio ystod eang o bynciau. Mae gennym hefyd ddau gwrs arbenigol mawr sydd wedi’u haddysgu ers dros ugain mlynedd: Economeg Ryngwladol, Bancio a Chyllid ac Economeg Ariannol. Mae'r cwrs MSc Economeg (annibynnol) ar gael hefyd i'r rhai sy'n dymuno gwella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o Economeg.