Gyrfaoedd
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.
O ymchwilwyr canser i geidwaid anifeiliaid cigysol, amgylcheddwyr i flogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd yn eu blaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.
Mae gan ein myfyrwyr enw da rhagorol am ddod o hyd i waith ar ôl iddynt raddio. Yn ôl ein data mwyaf diweddar, roedd 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae cyfran sylweddol o’n graddedigion yn mynd yn eu blaen i astudio gradd meistr neu PhD, tra bod eraill yn cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, megis ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil feddygol, cyhoeddi gwyddonol, iechyd cyhoeddus, a rheoli bywyd gwyllt, ymysg pethau eraill.
Mae hefyd gan ein graddedigion nifer o sgiliau trosglwyddadwy sy’n denu ystod eang o gyflogwyr mewn diwydiannau eraill. Yn olaf, gall gradd Biowyddoniaeth fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio a gwyddoniaeth filfeddygol.
Straeon graddedigion
Cyngor gyrfaoedd
Mae’r Brifysgol yn cynnig Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sy’n agored i fyfyrwyr, myfyrwyr ôl-raddedig a graddedigion hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio.
Mae’n cynnig ystod o wasanaethau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich gradd (a’ch dyfodol), gan gynnwys:
- dosbarthiadau meistr - CVs, llythyrau eglurhaol a cheisiadau
- sesiynau cyngor un-i-un gyda chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig
- cynllun cyflogadwyedd Gwobr Caerdydd
- cynlluniau profiad gwaith a chyngor yn ei gylch
- ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau a arweinir gan gyflogwyr i alluogi unigolion i rwydweithio â phrif gyflogwyr graddedigion
Darganfyddwch mwy am ein cyrsiau Biowyddorau israddedig.