Blychau benthyg
Mae ein bocsys benthyg yn cynnwys yr holl offer, canllawiau gosod a thaflenni gwaith wedi’u paratoi.
Adweithiau Cadwyn Polymeras (PCR)
Mae’r gweithgaredd allgymorth bioleg Safon Uwch hwn yn cynnig dysgu ymarferol uniongyrchol yn eich ystafell ddosbarth gydag offer, adweithyddion, protocolau a chyflwyniadau PowerPoint perthnasol i gyd wedi’u cynnwys ar ffurf benthyciad dros dro. Fel arfer, gall y gweithgaredd gael ei gefnogi’n ychwanegol gan ymchwilydd a/neu fyfyrwyr israddedig.
Mae ein blwch benthyg PCR yn cynnwys:
- cylchredwr thermol
- pibedau a blaenau Gilson
- geliau a thanciau gel
- cyflenwad pŵer
- adweithyddion