Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan y BRE ar gyfer Dylunio’n Gynaliadwy yn yr Amgylchedd Adeiledig (SuDoBE)

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Sefydlwyd y Ganolfan yn 2007 fel cyd-fenter rhwng Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) a Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar hyrwyddo dylunio cynaliadwy yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Prif ffocws y Ganolfan yw agweddau cymdeithasol-dechnegol cynaladwyedd, gan gynnwys y berthynas rhwng lles, iechyd ac amgylcheddau cynaliadwy. Prif nod ei hymchwil yw datblygu gwybodaeth a all lywio dylunio cynaliadwy fydd yn cyfoethogi bywydau pobl yn y dyfodol. Dan yr ymbarél hwn, mae'r tîm wedi datblygu ac yn defnyddio arbenigedd mewn ymwneud dynol-amgylcheddol ac arloesedd cymdeithasol. Mae'r arbenigedd hwn yn sail ar gyfer ymagwedd eang o ran gwerthuso perfformiad adeiladau sy'n cyfuno gwyddor bensaernïol, seicoleg amgylcheddol, athroniaeth technoleg, anthropoleg a'r dyniaethau. Mae'r ymagwedd ryngddisgyblaethol hon yn ein helpu i ddatblygu 'disgrifiadau trwchus' o'r ffordd mae pobl yn profi ac yn defnyddio'r amgylchedd.

Llwyddiannau allweddol

Ymhlith y llwyddiannau allweddol mae ymchwil ar effeithiau iechyd uwchraddio ynni mewn tai cymdeithasol (Poortinga), ar sgoriau BREEAM a chysur mewn adeiladau annomestig (Zapata-Lancaster) ac ymchwil ar gasglu data ar ynni mewn tai cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o Labordy Ymchwil Ynni Clyfar y DU (Tweed, Lannon). Mae Marchesi a Tweed yn cydweithio gydag Arup a Clarion Housing ar Gymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yn ymchwilio i'r economi gylchol mewn tai cymdeithasol.

Prosiectau sydd wedi'u cyllido

Ers 2007, rydym ni wedi ymwneud â'r prosiectau ymchwil canlynol a gyllidwyd:

TeitlAsiantaeth/partneriaid cyllidoDyddiadGwerth
SHREWD (Social Housing Research on Energy from Welsh Data)Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

2020 – 2022

£391k
CircuBED (Circular Economy in Built Environment Design)Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie2018 – 2021£156k
Energy and Environmental Monitoring Toolkits for Social HousingEPSRC IAA2017 – 2018£30k
The Health Impacts of Structural Energy Performance Investments in Wales: An Evaluation of the Arbed ProgrammeY Sefydliad Iechyd Cenedlaethol er Ymchwil 2013 – 2015£750k
Re-Engineering the City 2020-2050: Urban Foresight and Transition ManagementAmgylcheddau Trefol Cynaliadwy EPSRC 32010 – 2014£2M
Use of timber in building constructionCyllid cydgyfeirio LCRI2010 – 2013£525k (£290k)
Monitoring the performance of low carbon buildings and technologies in WalesCyllid cydgyfeirio LCRI2010 – 2013£415k (£180k)
Conditioning Demand: A Sociotechnical Study of Energy Users and Renewable/Efficient TechnologiesEPSRC ac EDF – Pobl Ynni ac Adeiladau2011 – 2012~£600k (£150k i Gaerdydd)
Carbon, Control and Comfort: User-centred control systems for comfort, carbon saving and energy management (CCC)EPSRC/Eon2009 – 2012£2M (£300k)
Solutions for Holistic Optimal Retrofit – 1980s urban semi detached house – feasibility studyTSB Retrofit for the Future Cam 22010 – 2012???
Sustainable Refurbishment of Building Facades and External Walls (SUSREF)Y Comisiwn Ewropeaidd FP72009 – 20112.6M € (182k €) w/ 251k € i BRE Cymru
Developing knowledge exchange mechanisms to support Welsh low-carbon housingLlywodraeth Cymru, Cronfa Cyfnewid Gwybodaeth2007 – 2008£50k w/ £22k i BRE Cymru

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau uchod cysylltwch â'r Athro Chris Tweed:

Yr Athro Chris Tweed

Yr Athro Chris Tweed

Pennaeth yr Ysgol, Cadair Dylunio Cynaliadwy

Email
tweedac@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6207