Symposiwm Myfyrwyr Ymchwil 2023 Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Pensaernïol

Bydd yn cael ei gynnal ar 12 a 13 Ebrill 2023 yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, y DU.
Ymchwil mewn argyfwng: tactegau a dulliau
Rydym yn falch iawn o wahodd myfyrwyr ymchwil i Symposiwm Myfyrwyr Ymchwil Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Pensaernïol, a fydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd. Nod y symposiwm yw ymchwilio i’r defnydd o dactegau a dulliau ymchwil yn y maes, a hynny yng nghyd-destun argyfwng. Rydym yn croesawu cynigion i gyflwyno papurau nad ydynt ar eu ffurf derfynol eto, dangos posteri a chael trafodaeth mewn grwpiau ynghylch y canlynol:
- Prosiectau ymchwil sy’n ystyried pynciau sy’n ymwneud ag argyfwng, fel prosiectau sy'n ymchwilio i newid yn yr hinsawdd, newid economaidd, materion iechyd y cyhoedd, hiliaeth, lles ac ati.
- Prosiectau ymchwil sy'n ystyried goblygiadau ehangach argyfyngau a sut maent yn datgelu problemau sylfaenol a/neu strwythurol presennol neu’n dod â nhw i’r amlwg.
- Ymchwil sy'n canolbwyntio ar heriau, sy’n anelu at atal a/neu liniaru argyfyngau yn y dyfodol neu wella prosesau casglu data a gwneud penderfyniadau mewn argyfwng.
- Tactegau a ddatblygwyd yn sgîl argyfyngau, fel cyfnodau clo yn ystod pandemig COVID-19, mesurau cadw pellter cymdeithasol, gweithio o bell ac ati.
- Datblygiadau arloesol methodolegol neu ddulliau newydd a ddatblygwyd mewn ymateb i argyfyngau a/neu fethiant ymchwil.
- Heriau ymchwil a dulliau neu fethodolegau yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’.
Ynglŷn â Chymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Pensaernïol
Mae Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Pensaernïol yn sefydliad academaidd nid-er-elw. Cafodd ei chreu i fod yn rhwydwaith cynhwysol a chynhwysfawr sy’n cefnogi ymchwilwyr ym maes y dyniaethau pensaernïol ledled y DU a thu hwnt. Mae’n hyrwyddo, yn cefnogi, yn datblygu ac yn lledaenu ymchwil o ansawdd uchel yn y maes.
Mae’n hwyluso rhwydwaith cynhwysfawr rhyngwladol o academyddion sefydledig, a hynny drwy annog gwaith sy’n datblygu ymchwilwyr iau a rhoi cymorth i drin a thrafod meysydd ymchwil newydd a chynyddol amlwg yn y maes. Mae'n lledaenu ymchwil yn y maes drwy gynadleddau blynyddol, cyfarfodydd, symposia ymchwil a chyhoeddiadau ymchwil o ansawdd uchel.
Mae’r Pwyllgor Trefnu’n bwriadu cynnal cynnwys ar wefan y symposiwm am flwyddyn o leiaf, hyrwyddo’r cynnwys hwnnw ar y cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno uchafbwyntiau a/neu waith dethol yn arddangosfa diwedd blwyddyn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Bydd gwobr yn cael ei rhoi ar gyfer y poster gorau, hefyd. Ymhlith manteision eraill bod yn bresennol mae’r cyfle i gynnig papur i’w gyhoeddi yn Architecture and Culture – cyfnodolyn rhyngwladol Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Pensaernïol sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog yn gryf i gyflwyno papur a dderbyniwyd i’r cyfnodolyn.
Dyddiadau allweddol
Dyddiad | Digwyddiad |
---|---|
6 Ionawr 2023 | Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodeb 350 gair drwy Microsoft Forms |
23 Ionawr 2023 | Hysbysu’r siaradwyr |
6 Mawrth 2023 | Dyddiad cau ar gyfer cofrestru |
12 Ebrill 2023 | Sesiynau panel, prif anerchiad(au), cyflwyniadau poster, trafodaeth mewn grwpiau |
13 Ebrill 2023 | Sesiynau panel, prif anerchiad(au), trafodaeth lawn |
14 Ebrill 2023 | Gweithgareddau cymdeithasol dewisol ar gyfer y rhai sy’n bresennol |
Galwad am gyflwyniadau
Fe’ch gwahoddir i gyflwyno crynodeb 350 gair, ynghyd â bywgraffiad byr (dim mwy na 150 o eiriau) ac allweddeiriau (5)
Gofynnir i awduron y crynodebau a ddewiswyd gyflwyno eu hymchwil mewn 10-20 munud, gan ddibynnu ar y fformat, yn y symposiwm. Gellir trafod cyfrannu mewn ffyrdd eraill gyda’r Pwyllgor Trefnu ymlaen llaw. Os hoffech gael trafodaeth o’r fath, ebostiwch researchincrisis@caerdydd.ac.uk.
Gwahoddir myfyrwyr ymchwil i arddangos eu hymchwil ar boster A2 (portread neu dirwedd) yn ystod y symposiwm, hefyd. Y cyfranogwr sy'n gyfrifol am argraffu’r poster a’i gyflwyno i bwyllgor y gynhadledd.
Anogir presenoldeb wyneb-yn-wyneb. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw anghenion arbennig (e.e. oherwydd eich bod yn ymprydio yn ystod Ramadan) neu unrhyw gyflwr iechyd a fyddai’n eich rhwystro rhag bod yn bresennol wyneb-yn-wyneb, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu gwneud trefniadau ar-lein. Mae’r symposiwm yn rhad ac am ddim.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'r Academi Ddoethurol.
Prif areithiau
- Yr Athro Camillo Boano, Uned Cynllunio Datblygu Coleg Prifysgol Llundain
- Christina Varvia, Pensaernïaeth Fforensig (I'w gadarnhau)
- Dr Tahl Kaminer
- Dr Federico Wulff
- Yr Athro Clarice Bleil De Souza
- Yr Athro Aseem Inam
Cyrraedd yma
Cyfrifoldeb y rhai a fydd yn bresennol yw talu costau teithio i’r symposiwm. Anogir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – mae’r lleoliad yn daith gerdded fer o safleoedd bws a’r orsaf drenau. Nid oes lleoedd parcio ar gael, ac eithrio ar gyfer y rhai ag anghenion hygyrchedd. Bydd rhestr o westai pris rhesymol a argymhellir yn cael ei rhannu ymlaen llaw.
Bwyd a diod
Bydd cinio bwffe fegan a lluniaeth ar gael ar y ddau ddiwrnod. Anogir pawb i ddod â’u potel ddŵr a/neu eu cwpan eu hunain a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion deietegol cyn cofrestru.
Cysylltwch â'r trefnwyr
- Juan Usubillaga Narvaez (Cadeirydd y Pwyllgor, ymchwilydd ôl-raddedig)
- Irina Barbero (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Faisal Farooq (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Nilsu Erkul (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Menatalla Kasem (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Jierui Wang (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Basak Ilknur Toren (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Lu Cheng (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Miltiadis Ionas (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Kamal Haddad (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Rawan Jafar (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Kaiwen Li (ymchwilydd ôl-raddedig)
- Dr Sam Clark (Arweinydd Academaidd)
- Dr Vicki Stevenson (Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig)
- Katrina Lewis (Rheolwr Ymchwil)