Ewch i’r prif gynnwys

Galw am ymarferwr allanol

Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan weithwyr proffesiynol creadigol, brwdfrydig a fydd yn cefnogi ein myfyrwyr mewn amgylchedd addysgu ac ymchwil bywiog a chydweithredol.

Rydym yn chwilio am ymarferwyr ac academyddion sydd â hanes amlwg ac sydd am addysgu yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU, o agenda sydd wedi’i diffinio’n dda mewn dylunio pensaernïol cynaliadwy a chyfoes.

Gwahoddir cynigion ar gyfer y mathau canlynol ar ymarferwyr i gefnogi ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn 2023/24:

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i Diwtoriaid Stiwdio yn y BSc Pensaernïaeth (blynyddoedd 1 a 2) ac MA mewn Dylunio Trefol (MA UD)

Mae'r Stiwdios yn rhedeg o fis Hydref tan y Pasg ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 y BSc ac o fis Hydref i fis Medi ar gyfer yr MA Dylunio Trefol. Rydym yn cynnal tiwtorialau bob wythnos, naill ai mewn grwpiau bach neu gydag unigolion. Mae'r rhain yn rhoi amser a lle i’r myfyrwyr ddatblygu a phrofi syniadau deallusol drwy ddylunio.

Arweinydd y modiwl dylunio sy’n pennu’r dulliau addysgu a’r briffiau. Mae ymarferwyr allanol yn helpu’r arweinydd i weithio a chynghori’r myfyrwyr o fewn y fframwaith penodol.

Fel arfer, bydd 12 o fyfyrwyr ym mhob stiwdio BSc. Ar lefelau 1 a 2, bydd gofyn i’r myfyrwyr ymateb i friff penodol sydd wedi’i bennu i annog agweddau penodol ar wybod, ar fod ac ar weithredu a fydd yn cyfrannu at eu datblygiad yn rhan o’r cwricwlwm. Bydd y briff yn nodi'n glir y lleoliad daearyddol, yn ogystal â thema a rhaglen glir.

Mae’n bosibl y byddwch yn ystyried ymuno â Grŵp Cysylltiadau â Gweithle y WSA sy'n cefnogi ein MArch unigryw gydag 1 Flwyddyn o Addysg yn y Gweithle. Mae Tiwtoriaid Cysylltiadau â’r Gweithle yn mentora ac yn cynnig arweiniad ar ddylunio i grŵp bach o fyfyrwyr gan gynnwys ymweliad rhithwir â swyddfa i adolygu profiad a gosod nodau ar gyfer hunanddatblygiad yn y gweithle. Fel rhan o hyn, byddwch yn cynnig cyngor tiwtorial, adolygiad ac asesiad ar gyfer Dylunio yn y Gweithle, sy'n anelu at fynd i'r afael â heriau dylunio yn y byd go iawn trwy addysgu Prosiect Byw.

Mae Tiwtoriaid Cysylltiadau â’r Gweithle fel arfer yn benseiri cymwys Rhan 3 (neu gyfwerth) gyda phrofiad o’r gweithle; byddai diddordeb arbennig mewn ailddefnyddio addasol, dylunio amgylcheddol ac ymgysylltu â'r gymuned yn cyd-fynd yn dda i gefnogi briffiau ein Prosiect Byw.

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i redeg stiwdio ddylunio yn nhrydedd flwyddyn ein cwrs BSc Pensaernïaeth (RIBA Rhan I).

Bydd y stiwdios yn rhedeg o fis Hydref i fis Mehefin. Mae gennym diwtorialau wythnosol mewn naill ai grwpiau bach neu gydag unigolion, sy’n rhoi’r amser a’r lle i fyfyrwyr ddatblygu a phrofi syniadau deallusol drwy ddylunio.

Rhagwelir y bydd gan bob stiwdio ar gyfer BSc tua 24 o fyfyrwyr a dau diwtor. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ymateb i agenda thematig a osodir gan arweinwyr y stiwdio, ac rydym yn gofyn am ddrafft un dudalen o'r cysyniad hwn, ynghyd â CV. Mae’r ysgol yn agored i gynigion gan unigolion, neu gan dîm sydd eisoes wedi’i sefydlu.

Rydym yn croesawu cynigion am y stiwdio mewn meysydd pwnc sy'n cyd-fynd â lle a phersonoliaeth, trefolaeth, gwneuthur, amgylchedd ac addasu. Gellid cefnogi'r rhain hefyd gan Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaethau yr ysgol.

Dylai’r canlyniadau sicrhau’r deilliannau dysgu sy’n cyd-fynd â’r meini prawf a osodwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri ar gyfer Rhannau 1 a 2 yn ôl eu trefn.

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i redeg uned ddylunio yn ail flwyddyn ein cwrs Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch RIBA Rhan II) a’r MA mewn Dylunio Pensaernïol (MA AD).

Mae gan bob uned ar lefel Meistr ryw naw i ddeg o fyfyrwyr. Gallem ystyried unedau mwy pan fydd arweinwyr unedau yn awyddus i gydweithio. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn ymweld â safleoedd penodol o leiaf unwaith a gallai taith astudio ffurfio rhan o unedau’r rhaglen feistr hefyd.

Mae MA mewn Dylunio Pensaernïol yn rhaglen ôl-raddedig sy'n canolbwyntio ar y gwahanol agweddau lluosog a chysylltiadau rhwng dylunio ac ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am unedau blynyddoedd blaenorol ac am draethodau hir MA AD terfynol y myfyrwyr, ewch i dudalen MA AD yn Arddangosfa ar-lein WSA 2021.

Y canlyniadau

Dylai’r canlyniadau sicrhau’r deilliannau dysgu sy’n cyd-fynd â’r meini prawf a osodwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri ar gyfer Rhannau 1 a 2 yn ôl eu trefn.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu traethawd ymchwil dylunio sy'n ymateb i fater neu thema a ddiffinnir yn glir, ac a gefnogir gan arweinydd eu huned. Mae’r traethawd dylunio estynedig yn gyfrwng i fyfyrwyr ennill sgiliau pwysig mewn ymchwilio a’u trosi’n rhaglen bensaernïol, ffurf a datrysiad perthnasol.

Cynigion am unedau

Byddai’r ysgol yn croesawu unedau mewn meysydd pwnc sy’n cyd-fynd â: lle a phersonoliaeth, trefolaeth, gwneud, amgylchedd ac addasu. Gellid cefnogi'r rhain hefyd gan Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaethau yr ysgol.

Gwahoddir cynigion gan ymarferwyr a phobl academaidd sy'n gallu dangos record cadarn o ddylunio ar lefel uchel – er enghraifft, prosiectau a gwblhawyd yn y gweithle, stiwdios dylunio blaenorol, cyhoeddiadau a/neu wobrau. Mae angen i ymgeiswyr allu addysgu dylunio o agenda sydd wedi’i diffinio’n dda ac sy’n gysylltiedig â dylunio pensaernïol cyfoes.

Yn yr un modd, gofynnir i Arweinwyr yr Uned fod â phrofiad helaeth y gellir ei ddangos ar y gwahanol fathau hyn ar gysylltiadau rhwng dylunio ac ymchwil.

Hanes a Theori

Mae gennym ddiddordeb mewn cael ymarferwyr allanol i gefnogi ein modiwlau Hanes a Damcaniaeth yn y rhaglen BSc (RIBA Rhan 1), dyma fodiwlau yn seiliedig ar ddarlithoedd gyda gweithdai a seminarau. Rydym yn chwilio am wybodaeth o hanes a damcaniaeth a ddatblygwyd trwy astudiaethau pensaernïol neu bwnc cyfatebol, ac am ddiddordeb brwd yn y maes.  Fel rhan o dîm, gallai eich arbenigedd gynnwys cyfrannu at diwtorialau, seminarau neu weithdai.

Technoleg

Rydym yn chwilio am ymgynghorwyr sydd ag arbenigedd mewn Technoleg Bensaernïol i gefnogi prosiectau myfyrwyr Rhan I a Rhan II. Bydd gennych ddiddordeb mewn ysbrydoli a herio myfyrwyr i integreiddio datrysiadau technoleg mewn prosiectau dylunio gyda ffocws penodol ar dectoneg bensaernïol, materoliaeth, ffabrig adeiladau, adeiladu adeiladau, ac integreiddio datrysiadau dylunio adeiladau carbon isel/di-garbon a chynaliadwy. Gall hyn gynnwys arbenigedd penodol mewn deunydd, cysur thermol, awyru, ffiseg adeiladu, gwasanaethau adeiladu, strwythurau, a diogelwch tân.

Adolgwyr dylunio

Yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn, rydym yn gofyn i weithwyr proffesiynol adolygu gwaith myfyrwyr. Os ydych chi'n bensaer neu'n arbenigwr mewn maes penodol rydych â diddordeb ynddo, mynegwch ddiddordeb

Sut i wneud cais

Mae dwy ran i'r broses ymgeisio.
Defnyddiwch y ddolen hon i gyflwyno eich mynegiad o ddiddordeb a defnyddio'r canllawiau ar y ffurflen ar sut i anfon atodiadau perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno CV ac enghreifftiau o waith dylunio gwreiddiol a/neu addysgu pensaernïol blaenorol.

Arweinwyr uned – gofynnir i chi hefyd gyflwyno datganiad o ddiddordeb un dudalen, sy’n cynnwys:

  • Nod, amcanion a chwmpas yr uned: maes pwnc, cwestiynau a allai godi o fewn yr uned, ffyrdd o weithio (darlunio, modelu, cyfrifiadurol, cydweithredol, ar safle, ac ati).
  • Lleoliad ac adnoddau: lle y bydd y myfyrwyr yn gweithio (yn y wlad, y dref, y ddinas, ardal, gwlad, ac ati). Pa adnoddau allai fod eu hangen i gefnogi’r uned?
  • Os yw'n bosibl, byddem hefyd yn gofyn i chi ystyried: amserlennu cyffredinol, goblygiadau adnoddau gan gynnwys costau deunyddiau, asesiad risg (gallwn roi cyngor ar hyn), ymweliadau â safle ac ymweliadau astudio.

Dylech hefyd ystyried methodoleg, sgiliau, dysgu a chanlyniadau disgwyliedig.

Nodwch yn eich cynnig ymhle yr hoffech leoli’r uned: BSc (RIBA Rhan I), MArch (Rhan RIBA Rhan II) neu MA AD. Rydym yn cadw’r hawl i awgrymu lleoliadau eraill.

Dyddiad cau 12 Mai 2023.

Yn dilyn hyn, os derbynnir eich cynnig am stiwdio neu uned, fe'ch gwahoddir i gyflwyno briff manwl arall.

Cysylltu

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Samantha Johnson:

Samantha Johnson

Samantha Johnson

Finance Manager

Email
johnsons18@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6728