Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Tŷ Gwydr

Mae ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn ymgymryd â'u prosiect cydweithredol mawr cyntaf ym mis Tachwedd/Rhagfyr yn eu tymor cyntaf fel arfer.

Yn 2017/18, fe gynhalion nhw eu prosiect yn ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, lle aethon nhw ati i gynllunio ac adeiladu tŷ gwydr a chreu lle ar gyfer y rhandiroedd cymunedol lleol.