MSc Gwerthusiad Uwch o Berfformiad Adeiladau

Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau rhyngddisgyblaethol sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i hyrwyddo effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd adeiladau sy’n bodoli eisoes.
Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar ynni a pherfformiad amgylcheddol adeiladau sy’n bodoli eisoes, gan integreiddio ffactorau technegol a dynol. Mae'n ymateb i'r angen am wella ansawdd amgylcheddau ac, ar yr un pryd, lleihau’r ynni mae adeiladau yn ei ddefnyddio a’u hallyriadau carbon deuocsid.
Mae’n galluogi myfyrwyr i werthuso sut mae dyluniad yr adeilad yn perfformio. Nod yr MSc mewn Gwerthusiad Uwch o Berfformiad Adeiladau yw rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr ym maes gwerthuso perfformiad gweithredol adeiladau. Yn flaenorol, MSc Diagnosteg Adeiladau ar gyfer Perfformiad Ynni ac Amgylcheddol oedd yr enw ar y cwrs hwn.
Sut i gyflwyno cais
I gael rhagor o wybodaeth ar gynnwys, strwythur a ffioedd y cwrs ynghyd â sut i wneud cais, ewch i dudalen wybodaeth y cwrs MSc mewn Gwerthuso Perfformiad Adeiladau.
Tîm y cwrs
Cyfarwyddwr y cwrs
Darlithwyr

Yr Athro Chris Tweed
Pennaeth yr Ysgol, Cadair Dylunio Cynaliadwy
- tweedac@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6207
Cefnogi derbyn myfyrwyr
Architecture Admissions
This course helped me to realise my dream to deliver a better world by applying problem-solving skills to address poor building performance. I enjoyed the small class atmosphere where I could express ideas and get immediate responses. What I liked most were the study trips were we explored different buildings allowing us to combine our theoretical knowledge with practical activities.