Ewch i’r prif gynnwys

Ap Diwrnod Agored

Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae'r hysbysiad hwn yn nodi'r wybodaeth a gaiff ei chasglu wrth i chi ddefnyddio Ap Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd ac at ba ddiben y caiff ei ddefnyddio.

Data a ddefnyddir

Pan fyddwch yn defnyddio yr ap ar gyfer ein Diwrnod Agored, mae ein system yn casglu eich cyfeiriad IP. Nid yw’n casglu unrhyw ddata personol arall a allai nodi pwy ydych. Mae’r cyfeiriad IP yn cael ei ddileu’n awtomatig o’n cofnodion ddim mwy nag wythnos ar ôl ei ddefnyddio. Mae’r ap yn casglu ystadegau’r ap (ceir esboniad pellach isod) sy'n cael eu cynnal a'u rheoli gan gwmni trydydd parti (Google, Inc.).

Lleoliad daearyddol y defnyddiwr

Gallai fod angen data am leoliad a lleoliad daearyddol defnyddiwr ap y Diwrnod Agored er mwyn helpu’r defnyddiwr i wybod ble i fynd. Nid yw Prifysgol Caerdydd yn casglu’r data hwn. Yn hytrach, caiff ei ddefnyddio i agor apiau o fewn y ddyfais megis Apple, Google neu fapiau Uber.

Dewisiadau/ysadegau defnyddiwr yr ap

Bydd rhai rhannau o ap Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd yn cadw dewisiadau’r defnyddiwr ar ei ddyfais er mwyn gwella profiad y defnyddiwr (e.e. cadw manylion y rhaglen a’r iaith a ddewiswyd).

Mae ap Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd yn defnyddio meddalwedd dadansoddeg ar y we. Mae'r rhain yn wasanaethau a gynhelir sy’n cael eu darparu a’u rheoli gan gwmnïau trydydd parti. Google yw prif ddarparwr meddalwedd dadansoddi’r we a gynhelir ar gyfer Prifysgol Caerdydd. Defnyddir Google Analytics i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn llywio’r ap. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir ynghylch yr ap, (gan gynnwys cyfeiriadau IP) yn cael ei throsglwyddo i a'i storio gan Google ar weinyddwyr a allai fod yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn gwerthuso’r defnydd o’r ap, yn llunio adroddiadau ar weithgarwch gwefannau i weithredwyr apiau ac yn rhoi gwasanaethau cysylltiedig eraill i Brifysgol Caerdydd. Nid yw’r cyfeiriad IP yn ddata sydd ar gael drwy Google Analytics. Mae’r holl ddata yn Google Analytics yn cael ei gyfuno ac yn ddienw.

Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti os bydd hynny’n ofynnol o dan y gyfraith, neu os bydd trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth i Google.

Diogelu data

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu. Gallwch hefyd ddarllen rhybudd preifatrwydd ein gwefan, sy'n manylu ar sut caiff data personol ei ddefnyddio a’i gasglu pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan. Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).