Ewch i’r prif gynnwys

Cyflawniadau a gynhwysir

Mae llawer o gyflawniadau y gallwch chi eu cynnwys ar eich HEAR.

Mae Cyngor Safonau ac Ansawdd Academaidd y Brifysgol (ASQC) wedi cytuno ar lawer o ddyfarniadau a gwobrau y gellir eu cynnwys yn HEAR.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Derbynnydd ‘Gwobr Caerdydd’
  • Cwblhau lleoliad gwaith haf drwy Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP)
  • Gwobrau a dyfarniadau Ysgolion unigol
  • Cwblhau modiwl ‘Ieithoedd i Bawb’
  • Cyrsiau Ffurfiol Undeb y Myfyrwyr:
    • Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1
    • Cymorth Cyntaf Brys
    • Dyfarniad lefel 2 CIEH Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
    • Rhaglen STEPS to Excellence for Personal Success gan y Pacific Institute
    • Cwrs Llwyddiant Personol
    • Sesiwn Ymwybyddiaeth o Fyddardod
    • Cwrs Mind The Gap
    • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol mewn Cyfathrebu
    • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol mewn Effeithiolrwydd Personol
    • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth
    • Diploma mewn Datblygiad Proffesiynol
    • Arweinydd Gwirfoddolwyr
    • Gwirfoddoli Caerdydd – Ymddiriedolwyr Myfyrwyr
    • Undeb y Myfyrwyr – Ymddiriedolwyr Myfyrwyr

Yn ogystal â’r rhain, mae dyfarniadau a gwobrau y gellir eu cymeradwyo gan eich Ysgol Gartref, megis Dyfarniadau Ysgoloriaeth y Brifysgol neu Wobrau i’r Myfyriwr Blwyddyn Olaf Gorau.

Bydd yr holl gyflawniadau allgyrsiol hyn sy’n ymddangos ar HEAR wedi’u dilysu gennym ni, felly gall unrhyw un y byddwch yn ei rannu gyda nhw fod yn hyderus bod yr holl fanylion yn gywir ac wedi’u cymeradwyo gan y Brifysgol.

Os ydych chi’n meddwl bod dyfarniad neu wobr ar goll o’ch HEAR cysylltwch â:

Registry