Ewch i’r prif gynnwys

Gweld a defnyddio eich HEAR

Byddwch yn gallu gweld eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) drwy wefan Dilysu’r Brifysgol. Pan fydd eich dogfennau ar gael, anfonir ebost atoch yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer cyfrif Gwirio.

Peidiwch â cheisio cofrestru cyn i chi gael gwahoddiad oherwydd caiff eich cofrestriad ei ddiddymu.

Cael gafael ar eich HEAR

  1. Ewch i’r wefan Dilysu a dilyn y cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gofrestru.
  2. Bydd angen eich dyddiad geni, rhif myfyriwr (7 neu 8 rhif) a chyfeiriad ebost personol. Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn cael ebost i ddilysu eich cyfrif.
  3. Gwiriwch fod yr holl wybodaeth ar eich HEAR a’ch Tystysgrif Gradd yn gywir.
  4. Os yw’r holl wybodaeth yn gywir, mae gennych gofnod parhaol, digidol o’ch cyflawniadau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Diweddaru neu gywiro eich HEAR

Os ydych chi’n meddwl bod unrhyw wybodaeth ar goll neu’n anghywir, cysylltwch â:

Registry

Os caiff problem ei chanfod, bydd y Gofrestrfa Gweithrediadau Myfyrwyr yn diweddaru a diwygio fel bo’n briodol, ar y cyd â’r Ysgol berthnasol, os oes angen.

Caniatáu i gyflogwyr weld eich HEAR

Byddwch yn gallu caniatáu i ddarpar gyflogwyr a thrydydd partïon eraill weld eich HEAR digidol drwy wefan Dilysu’r Brifysgol am gyfnod penodol o’ch dewis chi. Bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw weld cofnod cynhwysfawr, dilys, digidol o’ch cyflawniadau yn y Brifysgol. Er mwyn caniatáu i drydydd partïon weld eich HEAR, mewngofnodwch i’ch cyfrif Dilysu a chliciwch ar yr adran ‘Cysylltiadau’ ar eich Dangosfwrdd Dilysu ac ychwanegwch y trydydd parti. Cofiwch fod HEAR Prifysgol Caerdydd wedi’i ddilysu yn ei ffurf ddigidol yn unig.

Graddedigion y dyfodol

O flwyddyn academaidd 2017/18 ymlaen, bydd graddedigion israddedig a graddedigion ôl-raddedig a addysgir yn derbyn manylion am sut i weld eu HEAR drwy’r wefan Dilysu yn y llythyr fydd yn dod gyda’u copi caled o’u tystysgrif gradd.

Byddwch yn dal i dderbyn copi caled o’ch tystysgrif gradd, ond mae HEAR yn cymryd lle’r trawsgrifiad papur oedd yn cael ei anfon yn y gorffennol. Bydd modd gweld HEAR a chopi o’ch tystysgrif gradd yn electronig.

Cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â registrysupport@cardiff.ac.uk.