Ewch i’r prif gynnwys

HEAR

Ar gyfer cynfyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig a raddiodd ers Gorffennaf 2017, mae HEAR yn cynnig un cofnod digidol cynhwysfawr am ddim sy'n eich galluogi i gyflwyno eich llwyddiannau'n ddigidol i gyflogwyr a thiwtoriaid ôl-raddedig.

Os gwnaethoch raddio cyn Gorffennaf 2017, ewch i’n tudalen cais am sgriptiau a thrawsgrifiadau..

Gwyliwch fideo am HEAR

Nid yw HEAR yn cymryd lle CV. Ond bydd yn ategu ac yn cefnogi eich CV, ac o bosibl gall wella eich cyflogadwyedd neu gyfleoedd i astudio ymhellach.

Beth sy'n cael ei gofnodi

Mae HEAR yn dangos yr holl fodiwlau rydych chi wedi'u hastudio yn ystod eich astudiaethau israddedig neu ôl-raddedig. Gall hyn gynnwys rhai modiwlau nad oedd yn cyfrannu at eich marc terfynol, gan gynnwys unrhyw fodiwlau a fethwyd neu sydd wedi'u hailsefyll.

Bydd yn cyd-fynd â'ch tystysgrif gradd, gan ddarparu:

  • cofnod academaidd digidol awdurdodedig manwl o'r modiwlau a astudiwyd a'r marciau
  • cofnod academaidd digidol awdurdodedig manwl o gyflawniadau ychwanegol cydnabyddedig, Prifysgol Caerdydd, fel gwirfoddoli neu rolau cynrychioli, gwobrau Prifysgol ychwanegol, a/neu wobrau academaidd neu broffesiynol
  • symudiad at lif mwy penodol ar-lein o wybodaeth am fyfyrwyr.

Bydd popeth a gofnodir ar HEAR, gan gynnwys eich llwyddiannau academaidd ac allgyrsiol fel gwobrau a dyfarniadau, wedi'u dilysu gennym ni, felly gall unrhyw un y byddwch yn ei rannu gyda nhw fod yn hyderus fod yr holl fanylion yn gywir ac wedi'u cymeradwyo gan y Brifysgol.

Rhannu eich HEAR

Dim ond yn ei ffurf ddigidol (ar-lein) y mae HEAR yn ddogfen ddilys, ac nid wedi'i argraffu.

Cewch roi caniatâd i ddarpar gyflogwyr neu ddarparwyr astudiaethau pellach weld eich cofnod HEAR o gyflawniadau sydd wedi'u dilysu'n llawn.

Mae fformat safonol i HEAR ar y sgrin. Nid yw'n fwy na chwe thudalen o hyd a gellir ei weld neu ei lawrlwytho ar ffurf PDF. Dyma enghraifft o HEAR.

Ni fydd eich HEAR byth yn dod i ben. Ar ôl i chi raddio, caiff ei gwblhau a bydd ar gael i chi am gyfnod amhenodol.

Os byddwch yn aros ym Mhrifysgol Caerdydd neu'n mynd i rywle arall i ddilyn gradd Meistr neu gymhwyster arall, byddwch yn derbyn HEAR newydd ar gyfer y cwrs hwnnw.