Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd dros #TeamCardiff

Rhedwch yn ôl traed y goreuon a chodi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 2 Hydref 2022.
A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis cefnogi naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil canser. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau.
Bydd eich gwaith codi arian yn helpu i ariannu grantiau ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy'n darparu pad lansio i archwilio syniadau newydd a datgloi cyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr rydych chi'n meithrin talent newydd ac yn buddsoddi mewn syniadau arloesol.
Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin megis y fron, y prostad a'r coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin.
Mae ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia, a Chlefyd Alzheimer.
Gwnewch gais ar gyfer lle elusennol gyda #TeamCardiff
Os ydych yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff mae’n rhad ac am ddim! Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw codi isafswm nawdd o £250 ar gyfer y maes ymchwil Prifysgol o’ch dewis.
Rydym yn dyrannu ein lleoedd elusennol cyfyngedig gan ddefnyddio'r wybodaeth a roddwch yn eich cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni am pam yr hoffech redeg yn rhan o #TeamCardiff. Drwy dderbyn lle elusennol rhad ac am ddim yn Hanner Marathon Caerdydd, rydych yn cytuno i'n telerau ac amodau.
Oes gennych chi le Hanner Marathon Caerdydd eich hun neu eisiau gosod eich targed codi arian eich hun?
Byddem yn dwlu pe byddech yn ymuno â #TeamCardiff Byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth â'n rhedwyr lleoedd elusennol (gan gynnwys eich top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heb yr isafswm o ran targed codi arian.
Rhowch wybod inni yr hoffech chi ymuno â #TeamCardiff!
Yr arian yr ydych yn ei godi
Bydd 100% o'r arian byddwch yn casglu yn mynd yn uniongyrchol i'r maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.
Sut y byddwn yn eich cefnogi
- Crys-T neu fest technegol #TeamCardiff rhad ac am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu.
- Negeseuon ebost #TeamCardiff rheolaidd, yn llawn awgrymiadau ar gyfer codi arian a rhedeg.
- Pecyn adnoddau digidol #TeamCardiff yn cynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol, ffurflen noddi a syniadau ar gyfer codi arian.
- Aelod penodol o'r tîm i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych!