Stori ymchwil Frances am iselder

""
“Mae iselder yn beth llechwraidd, mae’n tueddu i gau popeth allan a gwneud y byd yn llai.”
Unigolyn a gymerodd ran yn yr ymchwil

Nid yw profiad yr unigolyn hwn a gymerodd ran yn yr ymchwil yn anghyffredin. Anhwylder Pruddglwyfus Difrifol (MDD), yr hyn sy’n cael ei alw’n iselder clinigol, yw’r salwch meddwl mwyaf cyffredin a’r prif achos dros fyw ag anabledd. Dyma brif achos anabledd ymysg pobl ifanc ac oedolion ifanc ar draws y byd.

Ond mae’r unigolyn hwn, a channoedd o bobl eraill yn cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sy’n ceisio newid hyn. Yr Athro Frances Rice (PhD 2003) sy'n cyd-arwain yr astudiaeth hon.

Mae'r Athro Frances Rice yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn astudio iselder ers gwneud ei PhD.

“Mae diddordeb gennyf mewn gwyddoniaeth sy’n gallu gwella bywydau pobl ac sy’n ceisio mynd i’r afael ag anawsterau sy’n wynebu cymdeithas; rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth pwysig iawn. Mae’n rhywbeth sy’n anhygoel o gyffredin.

“Mae cynifer o bobl yn perthyn neu’n adnabod rhywun sydd wedi’u heffeithio gan iselder. Yn benodol, rydym yn canolbwyntio ar y pontio rhwng llencyndod a bod yn oedolyn ifanc gan mai dyna pryd mae’r rhan fwyaf o achosion newydd o iselder yn dechrau.”

Mae Frances yn ymchwilio i beth sy’n achosi iselder drwy ddilyn iechyd meddwl, iechyd corfforol, amgylchiadau cymdeithasol a geneteg dros amser.

“Rydw i’n rhan o astudiaeth fawr a ddechreuodd yn 2007 sy’n cynnwys tua 350 o deuluoedd ar draws de Cymru. Rydym yn cwrdd â phobl ifanc sydd â rhieni sy’n dioddef o anhwylderau pruddglwyfus rheolaidd, yn ogystal â’r rhieni eu hunain hefyd. Roedd y bobl ifanc hyn mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl ond mae rhai yn aros yn iach ac eraill yn dioddef. Rydym ni eisiau cael gwybod pam. Nid yw pob unigolyn sydd â rhiant sy’n dioddef o iselder yn datblygu iselder eu hunain felly mae angen ffordd o ragfynegi pwy sydd mewn perygl fwyaf fel bod y rhai sydd â’r risg mwyaf yn gallu cael y cymorth sydd eu hangen arnynt yn gyflym.”

""

Fe wnaeth y cwestiynau...wneud i mi feddwl am fy mywyd a sut roeddwn yn teimlo. Rwy’n falch fy mod wedi helpu, gan fy mod yn dal i weithio drwy’r cwestiynau hynny yn fy mhen.

Unigolyn ifanc a gymerodd ran

""

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Mae Frances yn gweithio gydag ymchwilwyr sydd ag arbenigedd ym meysydd seicoleg, seiciatreg, niwrowyddoniaeth, ac mae rhai ohonynt hyd yn oed yn arbenigo mewn imiwnoleg.

“Mae Caerdydd yn ganolfan er rhagoriaeth ar gyfer ymchwil iechyd meddwl. Rydym ni’n cydlynu’n dda yn y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd tuag at nod a rennir - rydym ni yn dîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr sy’n ceisio cyrraedd mannau tebyg yn y pen draw lle’r ydym yn deall mwy am achosion sylfaenol ystod o gyflyrau iechyd meddwl.”

“Mae amrywiaeth yn angenrheidiol ac yn cryfhau’r ymchwil gan eu bod yn gyflyrau dyrys dros ben ac mae cyfuniad cymhleth o ffactorau yn eu hachosi. Drwy anwybyddu’r ffactorau biolegol neu gymdeithasol, neu ganolbwyntio ar un maes yn unig, nid oes modd gweld y darlun cyfan.”

""

Mae tîm yr Athro Rice yn cynnal eu hymchwil mewn modd cyfannol.

Mae tîm yr Athro Rice yn cynnal eu hymchwil mewn modd cyfannol.

“Mae problemau cymhleth fel iselder yn gofyn am sawl persbectif gwahanol a meddyliau yn gweithio o wahanol gyfeiriadau. Dydyn ni ddim yn ceisio gwahanu ffactorau. Yn hytrach, rydym am ystyried y cyfan ar yr un pryd i weld sut maen nhw’n rhyngweithio.

“Rydym ni’n gweithio gyda grwpiau ar draws y byd sy’n gwneud astudiaethau tebyg, sefydlu prosiectau cydweithredol gydag ymchwilwyr yn rhyngwladol sy’n gwneud astudiaethau tebyg ac yn ceisio cronni ein holl adnoddau a gweithio ar rhai o’r cwestiynau gyda’n gilydd.”

Nid oeddwn yn teimlo cywilydd dros fyw gyda hwyliau isel cronig ar ôl cymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Rhiant a gymerodd ran

""

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Bydd nodi’r achosion yn helpu i ddatblygu atebion ymarferol.

“Drwy ddeall rhai o’r achosion, y syniad yw y byddwch wedyn yn gallu ceisio penderfynu sut i drin cyfnod o iselder yn well pan fydd hynny’n codi a’i atal rhag gwaethygu i fod yn rhywbeth llawer mwy difrifol.

“Rydym ni’n ceisio nodi pa ffactorau sy’n gwneud rhywun yn fwy tebygol o ddatblygu salwch pruddglwyfus yn llawer hwyrach fel y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno mewn ymarfer clinigol i ddatblygu ffyrdd o fonitro a nodi pwy sy’n mynd i angen help a phwy sy’n mynd i angen cael eu targedu ar gyfer ymyrraeth.

“Rydym ni’n gobeithio datblygu teclyn y bydd meddygon teulu a chlinigwyr yn gallu ei ddefnyddio i ragweld y risg o ddatblygu iselder ac i sicrhau y bydd yr unigolion hynny sydd angen cymorth ychwanegol yn cael y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnynt. Mae teclynnau fel hyn yn cael eu defnyddio yn rheolaidd mewn ymarfer cyffredinol er mwyn rhagweld problemau iechyd corfforol megis clefyd cardiofasgwlaidd ond nad yw ar gael ar hyn o bryd ar gyfer monitro iechyd meddwl.

“Gan ddibynnu ar y claf, bydd atal yn debygol o gynnwys ymagweddau seicolegol (fel ymarfer nodi a herio ffyrdd negyddol o feddwl) yn ogystal â ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â ffyrdd o fyw megis cysylltu â phobl a chael digon o gwsg.”

Mae rhoddwyr sy’n cefnogi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn rhan o’r ymchwil yma. Yn achos Fran, mae rhoddion wedi golygu ei bod yn gallu edrych yn fanwl ar rôl y system imiwnedd mewn iselder.

“Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai ymatebion imiwnedd fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl. Rydym am edrych yn fanylach ar hyn a gweld beth yw’r cysylltiad rhwng y system imiwnedd a straen ac iechyd meddwl.

“Heb gefnogaeth gan roddwyr. ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnwys yr haen hanfodol yma o’r astudiaeth ddiweddaraf.”

""

Rwy’n gwybod mai nid hynny oedd bwriad yr astudiaeth o reidrwydd, ond fe roddodd y cyfle i fy mab siarad yn gyfrinachol [gydag un o'r ymchwilwyr] ac i ni’n dau gael sgwrs wedi hynny.

Rhiant

""

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Mae’r ymchwilwyr wedi cwrdd â’r bobl ifanc a’u rhieni dair gwaith yn barod ac yn gwneud astudiaeth ddilynol 10 mlynedd ar ôl y tro cyntaf iddyn nhw gwrdd i weld beth yw eu sefyllfa yng nghanol eu 20au.

Mae’r dyfyniadau hyn yn dangos yn glir bod dim ond cymryd rhan yn yr astudiaeth wedi cael effaith arwyddocaol. Yn hytrach na gadael i iselder gyfyngu ar fywyd a gwneud y byd yn llai, mae’r astudiaeth wedi cynnig posibiliadau a sgyrsiau newydd.

Ac er y byddai'n rhwydd i ni edrych ar y llwyddiannau hyn a llongyfarch ein hunain ar ein gwaith, y ffaith amdani yw bod yr astudiaeth yn parhau i gael ei chynnal. Gan fod y deilliannau mor arwyddocaol i’r rhai sy’n cymryd rhan erbyn hyn, mae’n awgrymu y gallai ymchwil Frances, gyda chefnogaeth barhaus, amlygu'r rhai sydd mewn perygl mewn ffyrdd cyflymach a gwell, rhoi triniaeth fwy effeithiol, a gwella bywydau pobl yn y pen draw.

Yr astudiaeth hon oedd y rhagflaenydd i gymryd iechyd meddwl o ddifrif, gan edrych ar hyd cyfnodau’r symptomau a’i effaith ar deuluoedd. Wrth i weddill y gymdeithas ddechrau hyrwyddo lles ac iechyd da, rydw i’n falch o fod wedi cymryd rhan o’r cychwyn.

Rhiant

""

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

Llun stoc: Llwyfanwyd gan fodel

""

"O'ch achos chi rydym ni'n agosâu at gael darlun llawn o iselder."

""

Diolch ichi am ddewis cefnogi Prifysgol Caerdydd. Mae pob cyfraniad – beth bynnag ei faint – yn cael effaith hirdymor ar ein gwaith o addysgu a dysgu, a’n gwaith ymchwil, sy’n flaenllaw ledled y byd.

Rhagor o wybodaeth am brosiectau codi arian a sut y gallwch chi helpu

Rhannu

Twitter
Facebook
E-bost
WhatsApp
LinkedIn
Reddit

""