Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor gyrfaol a chymorth

Bydd y brifysgol yn parhau i’ch cefnogi ar ôl ichi raddio. Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael i chi am hyd at dair blynedd ar ôl graddio:

Ar gyfer y newyddion a’r digwyddiadau gyrfaol diweddaraf, dilynwch ni ar LinkedIn.

Cyngor gyrfaoedd

Gall cyn-fyfyrwyr Caerdydd hefyd gael cyngor gyrfaoedd personol am hyd at dair blynedd o ddyddiad gorffen eich cwrs, gan gynnwys:

  • mynediad i adnoddau a chymorth i raddedigion
  • gofyn am apwyntiadau cynghorydd wyneb yn wyneb (dydd Llun i ddydd Gwener)
  • hyd at 4 apwyntiad gyrfa
  • cael adborth ar unwaith gyda'n CV a'n hofferyn gwirio llythyrau eglurhaol

Yn ystod cyfnodau pan fydd galw myfyrwyr yn uchel, mis Hydref a Thachwedd yn arbennig, efallai na fydd cyngor gyrfaoedd ar gyfer cynfyfyrwyr ar gael.

I weld cynghorydd gyrfaoedd:

  • cofrestrwch fel myfyriwr graddedig drwy Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr - bydd rhaid ichi gynnwys eich rhif myfyriwr (heb y ‘C’) a’ch manylion cyswllt cyfredol
  • wrth archebu, gofynnir i chi fynegi eich dewis o apwyntiad – yn bersonol, dros y ffôn neu Microsoft Teams

Ffeiriau gyrfaoedd, gweithdai a digwyddiadau

Gall cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd fynd i amrywiaeth o ffeiriau pwrpasol, gweithdai sgiliau a chyflwyniadau gan gyflogwyr sy'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar y calendr digwyddiadau a defnyddiwch eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i gadw lle.

Gwybodaeth am yrfaoedd a chyfle swydd

Adnoddau sydd ar gael:

Cymorth profiad gwaith ar ôl graddio

Mae’r tîm Profiad Gwaith yn cynnig ystod eang o brofiadau sydd ar gael am hyd at dair blynedd ar ôl graddio. Mae’r rhain yn amrywio o gyfleoedd byr di-dâl am bythefnos, i interniaethau mwy hirdymor â chyflog.

Mae cyfleoedd o bell a gweithio gartref yn cael eu cynnig ar hyn o bryd mewn ystod o sefydliadau a diwydiannau. Cefnogir llawer o’n hinterniaethau gan Brifysgolion Santander.

Bydd ymgymryd â chyfle profiad gwaith ar ôl i chi raddio yn gyfle i chi ennill sgiliau hanfodol er mwyn rhoi hwb i’ch CV, ystyried eich dewisiadau gyrfa ac ehangu eich rhwydwaith.

Mae’r holl gyfleoedd gwaith wedi’u hysbysebu ar hysbysfwrdd Swyddi’r Brifysgol.

Mae cynllun Menter Cymru yn rhaglen i raddedigion sydd wedi'i chynllunio i gysylltu graddedigion talentog ag ystod eang o fusnesau ledled Caerdydd a De-ddwyrain Cymru. Mae'r cynllun yn cynnig:

  • cyflogaeth ar lefel graddedigion â thâl
  • cymhwyster proffesiynol wedi'i ariannu'n llawn
  • cyfleoedd rhwydweithio gyda chyd-raddedigion
  • cymorth wrth law yn ystod yr interniaeth
  • mynediad i ddigwyddiadau rhwydweithio am ddim

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

KTP yw un o raglenni recriwtio mwyaf y DU sy’n cynnig dros 300 o gyfleoedd swyddi i raddedigion bob blwyddyn. Drwy ymuno gallwch reoli a chynnal prosiectau strategol heriol ar gyfer busnes, a derbyn cefnogaeth gan y brifysgol ar yr un pryd. Byddwch wedi’ch lleoli gyda’r cwmni yn llawn amser ond bydd aelod o staff academaidd yn eich goruchwylio drwy gydol y prosiect.

Gall cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar raglen KTP fanteisio ar:

  • gyfleoedd datblygiad gyrfaol ar lwybr carlam
  • cyflog cystadleuol
  • cael swydd o fewn y ddisgyblaeth academaidd ddewisol
  • gweithio yn y byd academaidd a diwydiant
  • cyfleoedd hyfforddi a datblygu
  • cofrestrwch ar gyfer gradd uwch yn ystod y prosiect
  • mynediad at ystod eang o gyfleusterau, gan gynnwys labordai a gwasanaethau llyfrgell

Mae swyddi KTP yn cael eu hysbysebu drwy gydol y flwyddyn.  Rhagor o wybodaeth am sut i elwa o gyfleoedd gyda KTP ar y Wefan KTP Genedlaethol.

Dyfodol Myfyrwyr