Ewch i’r prif gynnwys

First Campus

Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o First Campus – y Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach sy'n cwmpasu de ddwyrain Cymru.

Nod y rhaglen yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch o grwpiau a chymunedau yng Nghymru na fyddai fel arfer yn ystyried addysg bellach yn opsiwn, drwy godi dyheadau, a chreu cyfleoedd astudio a llwybrau dysgu newydd i addysg uwch.

Mae ymwybyddiaeth o lwybrau dilyniant a chyfleoedd gyrfaol posibl yn rhan annatod o bob prosiect/rhaglen a gyflenwir gan roi profiad dysgu cyflawn a chyfoethog sy'n dangos bod Prifysgol yn opsiwn i bawb.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan First Campus www.firstcampus.org neu cysylltwch â'n swyddogion yn:

First Campus
Prifysgol Caerdydd
Tŷ Friary
Caerdydd

Ffôn: +44 29225 11765
Ebost: firstcampus@cardiff.ac.uk