Prifysgol i bawb
Mae gennym amrywiaeth o raglenni a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i godi dyheadau a hyrwyddo addysg uwch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol.
Rydym yn ymrwymedig i ymateb i ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru a nodir yn ei strategaeth addysg uwch - Er Mwyn Ein Dyfodol - ac wedi datblygu strategaeth ehangu mynediad a chadw. Trwy’r strategaeth hon byddwn yn:
- codi dyheadau a chyrhaeddiad myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch yng Nghymru
- sicrhau ein bod yn recriwtio myfyrwyr i'r Brifysgol o bob cefndir gan gydnabod potensial llawn myfyrwyr yn ystod y broses dderbyn
- cynnig llwybrau ychwanegol at gyrsiau israddedig amser llawn dethol a dulliau cyflwyno mwy hyblyg i ôl-raddedigion
- darparu cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr i'w galluogi i ddatblygu’n academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol i'w llawn botensial.
Codi dyheadau
Mae gennym amrywiaeth o raglenni a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i godi dyheadau a hyrwyddo addysg uwch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol.