Canolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg
Y Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg yw cartref sefydliadol Prifysgol Caerdydd ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae'n darparu amgylchedd diogel i academyddion gael adolygu, cadarnhau, a herio dysgu ac addysgu.
Mae'r Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg yn rhan o bortffolio o fuddsoddiadau gwerth miliynau lawer o bunnoedd i gefnogi ein Strategaeth Addysg a Myfyrwyr sef 'Y Ffordd Ymlaen'.
Ein bwriad yw:
- gwella'r gefnogaeth bresennol ar gyfer arloesedd dysgu ac addysgu
- adnabod, rhannu a dathlu ymarferion rhagorol presennol
- cynyddu ymwybyddiaeth o dueddiadau allweddol, datblygiadau a chyfleoedd.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda staff y Brifysgol i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen i arloesi a datblygu eu harbenigedd dysgu ac addysgu.
Cysylltwch
Os oes gennych gwestiwn neu os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch â ni: