Llinell amser
1880s
-
1883 Sefydlwyd y Brifysgol
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei sefydlu ar 24 Hydref 1883 fel Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Arweiniodd hyn at ŵyl gyhoeddus, gorymdaith drwy’r ddinas a chanu clychau’r eglwys drwy’r dydd.
-
1884 Enwi’r Arglwydd Aberdâr yn Llywydd cyntaf
Mae cerflun o’r Arglwydd Aberdâr yn sefyll yng Ngerddi Alexandra yn y ddinas i nodi ei gyfraniad at addysg.
-
1885 Y neuadd breswyl gyntaf i fenywod
Mae hostel gyntaf y Brifysgol i fenywod, sef Neuadd Aberdâr, yn cael ei hagor. Hon yw’r cyntaf yng Nghymru a’r ail yn unig ym Mhrydain ar ôl Coleg Prifysgol Llundain. Mae’n dal i fod yn neuadd i fenywod yn unig heddiw.
-
1894 Yr Ysgol Meddygaeth yn agor
Roedd wedi’i lleoli ar lawr uchaf adeilad y Coleg, Heol Casnewydd.
-
1896 Y radd gyntaf yn cael ei dyfarnu
1900s
-
1904 Mae Caerdydd yn penodi’r athro benywaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig
Millicent McKenzie yw’r athro benywaidd cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
1910s
-
1916 Y radd feddygol gyntaf yn cael ei dyfarnu
Mae Tudor Thomas yn cael y radd MBBCh gyntaf (Baglor Meddygaeth a Llawdriniaeth). Fe arloesodd waith ar impio cornbilen, gan adfer golwg dyn a fu bron yn ddall am 27 mlynedd.
1930s
-
1933 Mae’r Brifysgol yn dathlu ei Jiwbilî Aur
Mae’r Arglwydd a’r Arglwyddes Bute yn agor eu tiroedd yng Nghastell Caerdydd ar gyfer parti gardd i ddathlu Jiwbilî Aur y Brifysgol. Dilynir hynny gan seremoni gradd er anrhydedd gerbron cynulleidfa o 2,500 o bobl, a derbyniad nos.
1950s
-
1955 Mae Neuadd y Brifysgol, Penylan, yn agor gyda 58 o ystafelloedd preswyl i fyfyrwyr gwrywaidd
Erbyn heddiw, mae adeiladau Neuadd y Brifysgol yn darparu llety ar gyfer dros 600 o fyfyrwyr.
1960s
-
1966 Yr Ysgol Deintyddiaeth a’r Ysbyty yn agor
Mae Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn agor yr Ysgol Deintyddiaeth a’r Ysbyty yn swyddogol.
1970s
-
1971 Mae’r Frenhines yn agor y Ganolfan Addysgu Meddygol yn swyddogol
Mae Ei Mawrhydi y Frenhines yn agor y Ganolfan Addysgu Meddygol gwerth £20 miliwn yn swyddogol. Mae’r Ganolfan yn cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru sydd ag 800 o welyau ac Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru.
-
1974 Undeb y Myfyrwyr yn agor
Erbyn heddiw, mae ein Hundeb Myfyrwyr ni ymhlith y goreuon a’r mwyaf o ran maint a gweithgarwch ym Mhrydain. Mae ganddo leoliad ar gyfer cyngherddau sydd â lle i 1,600 o bobl, clwb nos a thafarn.
1980s
-
1985 Rhaglen sgrinio canser y fron yn cael ei chynnig gan Weithgor y Brifysgol
Mae’r Athro Patrick Forrest yn cadeirio Gweithgor i ymchwilio i ymarferoldeb sgrinio ar gyfer canser y fron. Mae’r Grŵp yn cynnig y dylai sgrinio, gan ddefnyddio mamograffeg, gael ei gynnig i bob menyw rhwng 50 a 64 oed bob 3 blynedd fel rhan o’r GIG. Adwaenir y rhaglen sgrinio heddiw fel Bron Brawf Cymru.
1990s
-
1990 Papur newydd y myfyrwyr yn ennill gwobr Papur Newydd y Flwyddyn y Guardian
Mae papur newydd y myfyrwyr, gair rhydd, yn ennill gwobr Papur Newydd y Myfyrwyr y Flwyddyn y Guardian. Hwn oedd y penderfyniad unfrydol cyntaf yn y 12 mlynedd o gynnal y wobr.
-
1990 Medal Aur yn y Gemau Olympaidd Roboteg Rhyngwladol
Mae’r Ysgol Peirianneg Drydanol, Electronig a Systemau yn ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd Roboteg Rhyngwladol cyntaf ar gyfer dylunio ac adeiladu’r robot cyflymaf yn y byd ar ddwy goes.
-
1998 Y Coleg Meddygaeth yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae’r Athro Tony Campbell o’r Coleg Meddygaeth yn ennill y wobr am ddefnyddio cemoleuni mewn lleoliadau clinigol.
-
1999 Caerdydd yn ymuno â Grŵp Russell
Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod o Grŵp Russell o brifysgolion sy’n ddwys o ran ymchwil, gan weithio gyda phrifysgolion blaenllaw eraill ar draws y Deyrnas Unedig i helpu i ddatblygu’r sector addysg uwch.
2000s
-
2000 Y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae’r Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn y flwyddyn 2000 i gydnabod ei chyfraniad at yr economi.
-
2002 Parc Genynnau Cymru yn cael ei sefydlu i gynorthwyo ymchwilwyr geneteg yng Nghymru a thu hwnt
-
2004 Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn uno â Phrifysgol Caerdydd
Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn uno â Phrifysgol Caerdydd Mae Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn uno, gan adeiladu ar y bartneriaeth hir rhwng y ddau sefydliad a sicrhau buddsoddiad o £60 miliwn.
-
2005 Prifysgol Caerdydd yn gadael Prifysgol Cymru
Mae’r teitl ‘Prifysgol Caerdydd’ a Siarter Atodol newydd yn cael eu rhoi’n ffurfiol i’r Brifysgol gan y Cyfrin Gyngor ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines, sy’n golygu bod Caerdydd yn dod yn brifysgol yn ei rhinwedd ei hun yn swyddogol ac, o ganlyniad, yn dod yn annibynnol ar Brifysgol Cymru.
-
2007 Y Sefydliad Geneteg Feddygol yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae’r Sefydliad Geneteg Feddygol yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2007 am waith sy’n nodi achosion genetig clefydau a datblygu profion a thriniaethau diagnostig newydd.
-
2007 Caerdydd yn cael ei graddio ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd
Mae Caerdydd yn cael ei chynnwys ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd am y tro cyntaf yn Rhestr Prifysgolion y Byd papur y Times Higher Education.
-
2007 Syr Martin Evans yn ennill Gwobr Nobel
Mae’r Athro Syr Martin Evans FRS yn ennill y Wobr Nobel am Feddygaeth am ei gyfres o ddarganfyddiadau arloesol ynglŷn â bôn-gelloedd embryonig ac ailgyfuno DNA mewn mamaliaid. Syr Martin Evans oedd y gwyddonydd cyntaf i arwahanu bôn-gelloedd embryonig ac ef yw ein hail Enillydd Gwobr Nobel.
-
2008 Pen-blwydd Prifysgol Caerdydd yn 125 oed
Mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 oed, gan gynnwys cyngerdd gala yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
-
2009 Y Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae’r Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2009 am ysgogi camau ymarferol i leihau anafiadau yn sgil ymosodiadau treisgar ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
-
2009 Astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn un o’r 10 datblygiad meddygol gorau yn 2009 gan TIME Magazine
Mae astudiaeth allweddol gan y Brifysgol a helpodd i ddatgelu dau enyn newydd sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer yn cael ei chydnabod yn un o’r 10 datblygiad meddygol gorau yn 2009 gan TIME Magazine.