Ewch i’r prif gynnwys

Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol

Rashi Jain
Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Rashi Jain

Rashi Jain yw Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol.

Mae Rashi yn atebol i'r Is-Ganghellor am faterion o sylwedd ac yn arwain Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol. Mae'n rhoi arweiniad cyffredinol ar gyfer materion cyfreithiol a llywodraethu ar gyfer ein Prifysgol.  Mae Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyfreithiol mewnol, llywodraethu corfforaethol effeithiol a chyngor ar gydymffurfiaeth a risg.

Mae Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yn cefnogi ein Cyngor a'n tîm Rheoli Gweithredol trwy eu galluogi i gyflawni eu rhwymedigaethau llywodraethu corfforaethol a chydymffurfiaeth. Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu’r cyd-destun cyfreithiol a rheoliadol a datblygu polisïau a gweithdrefnau.

Rashi yw Ysgrifennydd y Cyngor a'r Llys ac mae’n atebol i Gadeirydd y Cyngor a'r Canghellor am gynghori ein corff llywodraethu a'i is-bwyllgorau ar ymarfer eu pwerau'n briodol ac ar gymhwyso cyfreithiau sy'n effeithio ar ei waith.

Hi hefyd yw Prif Swyddog Risg ac Uwch-reolwr Risg Gwybodaeth y Brifysgol ac mae ganddi rôl flaenllaw wrth nodi risg a rhoi cyngor pragmatig i randdeiliaid allweddol yn y sefydliad gan gynnwys yr Is-Ganghellor, Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, y Cyngor a'r Senedd.

Graddiodd Rashi ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd yn ei blaen i Goleg y Gyfraith yng Nghaer. Wedi hynny, dechreuodd Rashi ei chontract hyfforddiant gydag Eversheds yn ei thref genedigol, Manceinion. Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr, aeth yn ei blaen i ymarfer mewn cwmnïau cyfreithiol masnachol a phreifat, yn rhoi cyngor cyfreithiol a hyfforddiant i fusnesau ym meysydd gweithgynhyrchu a chyfleustodau, ymysg eraill.

Symudodd o ogledd-orllewin Lloegr i Fryste i ymuno â thîm cyfreithiol mewnol Prifysgol Bryste. Mae wedi ymddangos mewn Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a chyfryngiadau barnwrol, ac mae hefyd yn gyfryngwr sifil a masnachol achrededig. Pan adawodd Brifysgol Bryste, roedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt y Gwasanaethau Cyfreithiol, a hi oedd yn gyfrifol am y cyngor cyfreithiol oedd yn cael ei ddarparu ar faterion Cyflogaeth. Roedd hefyd yn goruchwylio’r tîm cyfreithiol ar gyfer cwynion myfyrwyr, achosion o gamymddygiad academaidd, achosion chwythu’r chwiban, y tîm diogelu data a’r gwasanaeth cyfryngu.

Mae cynhwysiant a thegwch yn faterion sy’n agos iawn at ei chalon. Gwirfoddolodd Rashi i fod yn Gyd-Gadeirydd Grŵp Profiad Staff Prifysgol Bryste ac roedd hefyd yn aelod o’r pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.