Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Susan Midha yw Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Mae’r adran yn cyfrannu at amcanion y Brifysgol gan ddatblygu a chyflwyno polisïau Adnoddau Dynol (AD). Mae’nrhoi cyngor ynglŷn â phopeth sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol, cefnogi datblygiad unigolion, timau a’r sefydliad a rhagori wrth hyrwyddo iechyd a diogelwch ar gyfer staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.
Ar ôl gadael Prifysgol Abertawe gyda gradd mewn Seicoleg, ymunodd Sue â Rolls-Royce ym 1987 yn hyfforddai ôl-raddedig yn rhan o’u Cynllun Cysylltiadau Diwydiannol a Hyfforddi. Wedi hynny, gweithiodd mewn swyddi ym meysydd Cysylltiadau Diwydiannol a Hyfforddi parhaol gyda’r cwmni.
Ym 1991, symudodd i’r sector addysg ac ymunodd â Phrifysgol Caerdydd yn Swyddog Hyfforddi a Datblygu. Cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Datblygu’r Staff a’r Sefydliad yn 2010, ac yn Gyfarwyddwr AD yn 2014. Ei phrif gyfrifoldeb yw arwain datblygiad strategaeth y Brifysgol ar gyfer pobl, gyda’r Dirprwy Is-Ganghellor.
Mae Sue yn Gymrawd Siartredig y CIPD ac Is-Gadeirydd yr Weithrediaeth Genedlaethol dros Adrannau AD Prifysgolion. Y Weithrediaeth Genedlaethol dros Adrannau AD yw’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer gweithwyr AD sy’n gweithio yn Addysg Uwch.
Manylion cyswllt
Cynorthwy-ydd Personol
Stephanie Cotterell
- Ebost: cotterells7@caerdydd.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)29 2087 9238