Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr

TJ Rawlinson yw'r Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Mae'r adran yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd a phroffesiynol ar draws y Brifysgol i godi cymorth ariannol ac i sefydlu cysylltiadau defnyddiol. Mae'n hwyluso cymorth ac eiriolaeth o gymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Yn enedigol o'r Amerig, cafodd TJ ei haddysgu yng Ngholeg Dartmouth (UDA) yn cynnwys blwyddyn dramor yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Rhydychen. Wedi cwrdd â'i gŵr yn Rhydychen, mae'r mwyafrif o'i gyrfa broffesiynol wedi bod yn y DU.
Yn fwyaf diweddar, hi oedd Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bryste, lle arweiniodd hi ymgyrch lwyddiannus gwerth £100 miliwn ar gyfer Canmlwyddiant y sefydliad. Datblygodd raglen rhoi'n rheolaidd sydd ymhlith y 4 uchaf yn y DU (ar sail incwm a nifer y cynfyfyrwyr sy'n cymryd rhan).
Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Datblygu yng Ngholeg Prifysgol Rhydychen, Pennaeth Gweithrediadau Datblygu Opera Cenedlaethol Lloegr a Swyddog Rhoddion Mawr ym Mhrifysgol Albany (UDA).
Trwy gydol gyrfa TJ, mae wedi cyflawni amrywiaeth o swyddi ymgynghorol, gyda chleientiaid yn cynnwys Prifysgol Caergrawnt a nifer o golegau Rhydychen.
Mae TJ yn weithgar yng Nghyngor 'CASE' (Council for Advancement and Support of Education) ac yn gyflwynydd sydd wedi ennill gwobr areithio Crystal Apple. Tan yn ddiweddar, roedd hi'n ymddiriedolwr Sgowtiaid Avon.