Ewch i’r prif gynnwys

Prif Swyddog Gweithredu

Claire Sanders
Prif Swyddog Gweithredu, Claire Sanders

Fel y Prif Swyddog Gweithredu, mae Claire yn gyfrifol am arweiniad, datblygiad a chyflwyniad effeithiol y gwasanaethau proffesiynol ledled y Brifysgol.

Mae Claire Sanders wedi gweithio mewn nifer o swyddi materion cyhoeddus a chyfathrebu uwch, ar ôl dilyn gyrfa fel newyddiadurwr. Cyn ymuno â Chaerdydd, roedd yn Bennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn Ysgol Economeg Llundain (LSE), lle'r oedd yn goruchwylio tîm y wasg, y tîm dylunio, cyhoeddiadau corfforaethol, cyfathrebiadau digidol a chyfathrebiadau mewn argyfwng.  Cyn hynny, roedd hi'n ymgymryd  â gwaith cyfathrebu ynghylch derbyniadau a llywodraethu ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Fel newyddiadurwr, bu'n gweithio i The Times Higher am nifer o flynyddoedd fel gohebydd, awdur erthyglau nodwedd, golygydd newyddion a golygydd barn. Yn ogystal, mae wedi gweithio i The Guardian, New Society a'r New Statesman, y Listener, y BBC a'r Deccan Herald yn Bangalore, India.

Ganed Claire ym Maseru, Lesotho, a dychwelodd yno ddechrau'r 1980au i ymgymryd â phrosiect ymchwil ac mae wedi cynnal diddordeb mawr yn y wlad ers hynny.

Ym 1999, mabwysiadodd ddau o blant a oedd wedi treulio cyfnod sylweddol mewn gofal ac mae'n ymgyrchu dros fwy o gefnogaeth i blant sydd wedi'u mabwysiadu.

Manylion cyswllt

Cynorthwyydd Personol

Rhian Murphy