Ewch i’r prif gynnwys

Cadeirydd y Cyngor

Patrick Younge
Patrick Younge, BSc

Ac yntau wedi sefydlu gyrfa ryngwladol ym myd teledu a’r cyfryngau, Patrick Younge (BSc 1987) yw un o brif ffigyrau’r DU ym maes y cyfryngau.

Patrick yw cyn-Brif Swyddog Creadigol BBC Television. Yn rhan o’r swydd hon, gwnaeth arwain dros 3,000 o staff a oedd yn gweithio ledled y DU a chreu rhai o sioeau mwyaf y DU, gan gynnwys sioeau bywyd gwyllt, Dr Who, Strictly Come Dancing a Top Gear.
Cyn ei swydd gyda BBC Television, cafodd ei recriwtio gan Discovery Communications i drawsnewid rhwydwaith teledu Americanaidd.

Mae hefyd wedi gweithio i BBC News, BBC Sport, ITV, a Channel 4. Gwnaeth gyd-sefydlu Cardiff Productions Ltd, cwmni cynhyrchu cynnwys yng Nghaerdydd.

Yn 2007, daeth yn un o Gymrodorion y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Mae hefyd wedi’i ddewis gan Powerlist yn un o’r 100 o bobl Ddu fwyaf dylanwadol ym Mhrydain, a hynny chwe gwaith.

Roedd Patrick yn un o lywodraethwyr annibynnol Prifysgol Gorllewin Llundain, ac ef oedd Is-Gadeirydd Bwrdd y Brifysgol honno. Roedd hefyd yn aelod o sawl is-bwyllgor.

Yn ogystal â bod yn un o gynfyfyrwyr y Brifysgol (ar ôl graddio â BSc mewn Fforio am Fwynau), Patrick hefyd yw cyn-Lywydd Undeb Athletau ac Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, gan gynnwys Is-Lywydd (Addysg) Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Penodwyd Patrick yn Gadeirydd y Cyngor ym mis Ionawr 2022. Mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, y Pwyllgor Llywodraethu a'r Pwyllgor Taliadau.