Y Llys
Mae'r Llys yn gorff cynrychiadol eang. Ei ddiben yw galluogi aelodau neu randdeiliaid amrywiol sydd â diddordeb yn y Brifysgol i gael gwybodaeth a chodi materion.
Cynhelir cyfarfodydd y Llys unwaith y flwyddyn. Ein Canghellor sy'n cadeirio'r cyfarfodydd hyn. Derbynnir yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon yn y cyfarfod.
Dyma brif swyddogaethau'r Llys:
- penodi aelodau'r Llys
- derbyn yr Adroddiad Blynyddol am waith y Brifysgol gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor
- derbyn y Cyfrifon sydd wedi'u harchwilio
- trafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r Brifysgol a chynghori'r Cyngor yn ôl yr angen.