Dr Steven Luke MBE

Mae Dr Steven Luke MBE yn Ymgynghorydd sydd ag enw da cadarn am arweinyddiaeth dda, rheoli ariannol llwyddiannus a phrofiad diymwad o gynllunio busnes strategol.
Arferai fod yn Gyfarwyddwr Ove Arup & Partners International hyd at fis Awst 2017 ac ymddeolodd ar ôl 42 mlynedd o wasanaeth. Mae ganddo BSc dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol, MSc a PhD – ym Mhrifysgol Caerdydd yr enillodd pob un o'r rhain. Mae'n Gymrodor Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol a Pheirianwyr Sifil.
Ymunodd Dr Luke ag Arup ym 1975 a bu ganddo sawl swydd yn y cwmni. Roedd gyfrifol am dîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys gweithwyr sy'n ymgymryd â gwaith yn ymwneud â'r amgylchedd, isadeiledd ac ynni. Fel arweinydd swyddfa Grŵp Cymru, roedd yn gyfrifol am yr holl faterion gweithredol gan gynnwys adnoddau dynol, datblygu busnes, marchnata a systemau. Roedd hefyd yn arwain Isadran Amgylchedd Adeiledig Rhanbarth y Gorllewin.
Mae Dr Luke wedi bod mewn sawl rôl anweithredol hefyd gam gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Grŵp Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd, Safle; Celfyddydau Cyhoeddus Cymru a Grŵp Cwmnïau Proffesiynol BITC (Busnes yn y Gymuned) rhwng 1989 a 2005 ac roedd yn ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru o 2009-2015. Am gyfnod o tua deng mlynedd hyd at 2007, roedd yn ddarlithydd allanol ar y cwrs peirianneg bensaernïol yn Ysgol Peirianneg y Brifysgol. Cadwodd mewn cysylltiad â'r Ysgol drwy Arup gan gynnwys cynnig gwobrau bychain i fyfyrwyr, noddi'r llyfrgell a chefnogi swydd Cadeirydd.
Ymunodd Dr Luke â Chyngor Prifysgol Caerdydd ar 1 Awst 2015. Mae'n aelod o'r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau, yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor Ystadau a Seilwaith ac mae'n aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.