Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Fonesig Janet Finch

Mae’r Fonesig Janet wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa broffesiynol mewn prifysgolion, ac yn fwy diweddar mewn swyddi anweithredol gyda’r gwasanaethau cyhoeddus a’r sector nid-er-elw. Mae hi’n gymdeithasegydd, ac mae ei harbenigedd academaidd ym maes perthnasoedd teuluol.

Roedd ganddi nifer o rolau ym Mhrifysgol Caerhirfryn cyn iddi gael dyrchafiad i fod yn Rhag Is-Ganghellor. Wedi hynny, bu’n Is-ganghellor Prifysgol Keele am bymtheg mlynedd.

Yn y swydd honno fe arweiniodd sawl menter yn ymwneud ag iechyd yn sector y prifysgolion, yn ogystal â sefydlu Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb ar gyfer addysg uwch a hi oedd cadeirydd cyntaf y corff.

Mae gan y Fonesig Janet brofiad o gadeirio a bod yn aelod o fyrddau anweithredol.

Mae ganddi brofiad helaeth o rolau arwain gyda chyrff cenedlaethol sy’n gysylltiedig ag ymchwil, gwyddoniaeth, addysg ac iechyd.  Mae hi wedi cadeirio byrddau Ymchwil Gymdeithasol NatCen, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac Ombudsman Services Ltd. Bu hefyd yn gyd-gadeirydd annibynnol Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Prif Weinidog, corff ymgynghorol uchaf y llywodraeth mewn gwyddoniaeth.

Mae hefyd yn aelod o fyrddau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Swyddfa Basport Ei Mawrhydi, a’r Cyngor Ymchwil Meddygol. Mae ganddi hefyd brofiad o bwyllgora, gan gynnwys pwyllgorau ymchwil ac archwilio. Ar hyn o bryd, mae hi’n aelod o Gyngor Research England.